Os nad yw eich babi’n cael ei fwydo ar y fron neu’n cael llaeth y fron, fformiwla babanod cyntaf yw'r unig fwyd y bydd ei angen ar eich babi yn ystod y 6 mis cyntaf. Ar ôl hynny, gallwch chi ddechrau rhoi bwyd solet iddo yn ogystal â llaeth cyntaf. Nid yw llaeth dilynol a llaeth cysur neu laeth babanod newynog yn cael ei argymell. Gallwch chi ddechrau rhoi llaeth buwch cyflawn cyffredin i'ch babi yn hytrach na llaeth cyntaf pan fydd yn troi'n 1 oed. I gael gwybodaeth annibynnol a dibynadwy am laeth fformiwla, edrychwch ar First Steps Nutrition.
Mae'n bwysig iawn bod fformiwla fabanod yn cael ei pharatoi'n gywir. Gallwch ddod o hyd i gyngor ar hyn trwy'r ddolen uchod ac ar y daflen ar-lein hon.
Argymhellir bwydo ymatebol i bob babi, p'un a yw'n cael ei fwydo ar y fron neu’n cael ei fwydo â photel. Mae hyn yn golygu’r canlynol:
Os oes gennych unrhyw bryderon am fwydo eich babi, cysylltwch â'ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu.