Mae’n bosib y byddwch chi’n fwy tebygol o gael iselder cyn-geni:
- os ydych chi wedi cael iselder o'r blaen
- os oes gorbryder gyda chi
- os ydych chi’n wynebu digwyddiad anodd iawn yn eich bywyd, fel profedigaeth neu wahanu â phartner
- os ydych chi’n teimlo'n ynysig heb fawr o gymorth gan deulu neu ffrindiau
- os ydych chi’n feichiog heb i chi ei gynllunio
- os ydych chi wedi wynebu cam-drin domestig neu drais
Fodd bynnag, mae unrhyw un yn gallu cael iselder yn ystod beichiogrwydd, hyd yn oed heb unrhyw brofiad o unrhyw beth ar y rhestr hon. Mae’n gallu digwydd heb rybudd ac yn gallu effeithio ar fenywod o bob cefndir. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.