Neidio i'r prif gynnwy

Beth ddylwn i ei wneud?

Dywedwch wrth eich bydwraig neu eich meddyg sut rydych chi'n teimlo.  Mae rhai menywod yn teimlo'n euog neu’n ofidus iawn am deimlo'n isel ar adeg pan fydd pawb yn disgwyl iddyn nhw fod yn hapus. Cofiwch na fydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eich beirniadu. Maen nhw’n deall bod iselder yn gyflwr iechyd meddwl. Nid chi sydd ar fai am hyn, a does dim angen i chi anghofio am y peth. Byddan nhw’n canolbwyntio ar eich helpu i gael y driniaeth a'r cymorth cywir er mwyn i chi allu gofalu amdanoch chi eich hun ac am eich babi.

Dilynwch ni: