Neidio i'r prif gynnwy

Brechu rhag y ffliw yn ystod beichiogrwydd

Mae’r ffliw yn gallu bod yn ddifrifol iawn yn ystod beichiogrwydd. Os ydych chi'n feichiog, dylech chi gael brechlyn rhag y ffliw i helpu i'ch diogelu chi a'ch plentyn yn y groth. Mae brechlyn rhag y ffliw’n ddiogel yn ystod pob cam o'r beichiogrwydd.

Os bydd menyw feichiog yn cael y ffliw, bydd ei babi’n fwy tebygol o gael ei eni’n gynnar, o gael ei eni gyda phwysau geni isel, neu o fod yn farw-anedig neu o farw yn ystod ei wythnos gyntaf. Mae'r brechlyn hefyd yn helpu i ddiogelu’r babi yn ystod 4-6 mis cyntaf ei fywyd pan fydd y ffliw’n gallu bod yn ddifrifol iawn.

Dylech chi gael y brechlyn rhag y ffliw cyn gynted ag y byddwch chi’n gwybod eich bod yn feichiog (os ydy'r brechlyn ar gael – mae’n frechlyn tymhorol sydd fel arfer ar gael rhwng mis Hydref a mis Mawrth). Gallwch chi gael y brechlyn ar yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas, ond peidiwch ag oedi cael eich brechu rhag y ffliw os na fyddwch chi’n gallu cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.

Mae menywod beichiog yn gallu cael eu brechlyn rhag y ffliw yn eu meddygfa neu mewn fferyllfa gymunedol.

Pam y dylai menywod beichiog gael y brechlyn rhag y ffliw?

Bydd y pigiad rhag y ffliw’n helpu i'ch diogelu chi a'ch babi.

Mae tystiolaeth dda bod menywod beichiog yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau os byddan nhw’n cael y ffliw, yn enwedig yng nghyfnodau diweddarach eu beichiogrwydd.

Un o’r cymhlethdodau mwyaf cyffredin yn sgil y ffliw yw broncitis, sef haint ar y frest sy’n gallu mynd yn ddifrifol a datblygu i fod yn niwmonia.

Os byddwch chi’n cael y ffliw pan fyddwch chi’n feichiog, bydd hyn yn gallu achosi i'ch babi gael ei eni'n gynnar neu gael ei eni’n rhy ysgafn. Gallai hyn hyd yn oed arwain at farw-enedigaeth neu farwolaeth.

Ydy’r brechlyn rhag y ffliw’n ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Ydy. Yn ôl astudiaethau, mae cael y brechlyn rhag y ffliw yn ystod unrhyw gam o'r beichiogrwydd yn ddiogel, o'r wythnosau cyntaf hyd at eich dyddiad disgwyl.

Mae menywod sydd wedi cael y brechlyn ffliw tra’n feichiog hefyd yn trosglwyddo rhywfaint o ddiogelwch i’w babanod, sy’n para am ychydig fisoedd cyntaf eu bywydau.

Mae'n ddiogel i fenywod gael y brechlyn pan fyddan nhw'n bwydo ar y fron.

Pryd y dylwn i gael y brechlyn rhag y ffliw?

Yr adeg orau i gael y brechlyn rhag y ffliw yw’r hydref, cyn i'r ffliw ddechrau cylchredeg. Os ydy’r adeg hon wedi mynd heibio, gallwch chi gael y brechlyn rhag y ffliw’n ddiweddarach yn y gaeaf, ond gorau po gyntaf.

Peidiwch â phoeni os byddwch chi’n cael gwybod eich bod yn feichiog yn ddiweddarach yn nhymor y ffliw – gallwch chi gael y brechlyn bryd hynny os nad ydych wedi ei gael eisoes.

Sut mae modd cael y brechlyn rhag y ffliw?

Cysylltwch â'ch bydwraig neu eich meddygfa i gael gwybod ble mae modd i chi gael y brechlyn rhag y ffliw. Mae'n syniad da cael eich brechu cyn gynted â phosib pan fydd y brechlyn ar gael ym mis Medi.

Mewn rhai ardaloedd, mae bydwragedd yn gallu rhoi'r brechlyn rhag y ffliw i chi yn y clinig cyn-geni. Mewn ardaloedd eraill, bydd angen apwyntiad mewn meddygfa arnoch chi.

Erbyn hyn, mae rhai fferyllfeydd cymunedol yn cynnig brechlyn rhag y ffliw gan y GIG.

Os cefais i bigiad rhag y ffliw y llynedd, oes angen i mi gael un arall nawr?

Oes, gan fod y firysau sy'n achosi’r ffliw’n newid bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu bod y ffliw (a'r brechlyn) eleni o bosib yn wahanol i'r llynedd.

Os cawsoch chi’r brechlyn rhag y ffliw y llynedd, naill ai gan eich bod chi’n feichiog neu gan eich bod chi mewn grŵp bregus, bydd angen i chi gael eich brechu eto eleni.

Fydd y pigiad rhag y ffliw’n rhoi’r ffliw i mi?

Na fydd. Dydy’r brechlyn ddim yn cynnwys unrhyw firysau byw, felly fydd dim modd iddo achosi’r ffliw. Bydd rhai pobl yn cael tymheredd ychydig yn uwch a chyhyrau poenus am gwpl o ddiwrnodau ar ôl cael eu brechu, ac mae’n bosib y bydd y man lle cawsoch chi’r pigiad yn ddolurus.

Ydw i’n gallu cael y pigiad rhag y ffliw yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas?

Gallwch, mae modd cael y pigiad rhag y ffliw yr un pryd â'r brechlyn rhag y pas, ond peidiwch ag oedi cael eich brechu rhag y ffliw os na fyddwch chi’n gallu cael y ddau frechlyn ar yr un pryd.

Mae menywod beichiog mewn perygl o gael salwch difrifol oherwydd y ffliw unrhyw bryd yn ystod beichiogrwydd, felly mae angen i chi gael y brechlyn rhag ffliw cyn gynted â phosib.

Rwy'n feichiog ac yn credu bod gyda fi’r ffliw. Beth ddylwn i ei wneud?

Siaradwch â meddyg teulu cyn gynted â phosib. Os oes gyda chi’r ffliw, gallai cymryd moddion ar bresgripsiwn eich helpu, neu leihau eich risg o ddatblygu cymhlethdodau, ond bydd angen cymryd y moddion yn fuan iawn ar ôl i'r symptomau ymddangos.

Dilynwch ni: