Beth rydyn ni’n ei wneud
Rydym yn darparu gwasanaeth arbenigol i gefnogi anghenion iechyd meddwl menywod sy'n profi salwch amenedigol ac yn hyrwyddo diogelwch a lles mamau sy'n profi salwch meddwl trwy eu taith o'r cyfnod cyn cenhedlu a beichiogrwydd i fod yn rhiant.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol yn arbenigo mewn asesu, diagnosis, triniaeth ac ymyrraeth therapiwtig i fenywod. Nod y gwasanaeth yw hyrwyddo cyfle pob mam i gael profiad cadarnhaol o'r berthynas rhwng mam a babi, tra'n cynnwys partneriaid ac unigolion eraill sy'n rhan o'r daith.
I bwy mae’r gwasanaeth?
Menywod beichiog sydd wedi dioddef o salwch meddwl yn y gorffennol a menywod sy’n gyda salwch meddwl sy’n fam i blentyn dan 12 mis oed.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer oedolion sy’n 18 oed neu’n hŷn, ond bydd yn cysylltu â Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, pan fydd yn briodol, pan fydd pobl dan 18 oed yn dod at y gwasanaeth..
Rydym hefyd yn darparu cyngor arbenigol i weithwyr proffesiynol eraill.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Atgyfeiriad gan Feddyg Teulu, ymwelwyr iechyd, bydwragedd neu wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Mae desg ddyletswydd ar gael i gynghori clinigwyr ar 01656 752520 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Amseroedd Agor
Oriau craidd 9:00am-5:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener Ac eithrio gwyliau banc
Mae opsiwn i adael neges lais y tu allan i’r oriau craidd hyn
Beth i'w ddisgwyl
Bydd mamau yn mynd at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol i gael asesiad ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael cymorth pellach gan therapydd galwedigaethol, nyrs iechyd meddwl, seicolegydd clinigol a/neu seiciatrydd. Fel arall, bydd y gwasanaeth yn gyswllt i gymorth argyfwng neu waith cynllunio gofal a thriniaeth.
Bydd y gwasanaeth yn darparu cynlluniau geni integredig cynhwysfawr i fenywod (a’u timau gofal) sydd dan risg uchel o gymhlethdodau iechyd meddwl difrifol yn fuan cyn y geni, yn ystod y geni ac ar ôl y geni. Mae hyn yn cynnwys menywod gyda diagnosis presennol o salwch meddwl difrifol gan gynnwys anhwylder affeithiol deubegwn/salwch seicotig neu hanes o salwch amenedigol neu salwch meddwl difrifol.
Cysylltwch â ni
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol
71 Heol y Chwarel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1JS
Adnoddau defnyddiol eraill
Apps
Dad's Information
Podcasts