Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae'r Tîm Cyswllt Iechyd Meddwl yn darparu gwasanaeth i bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty cyffredinol dosbarth, ysbytai cymunedol a'r adrannau argyfwng yn y Rhondda a Thaf Elái. Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn cynnig asesiad cynhwysfawr amserol o anghenion iechyd meddwl i’r rhai sy’n cael eu hatgyfeirio sydd â chyflyrau meddygol anesboniadwy a allai fod o ganlyniad i salwch iechyd meddwl neu sydd wedi hunan-niweidio.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'r gwasanaeth i unigolion dros 18 oed sy'n cael eu derbyn ac sydd angen asesiad iechyd meddwl a chefnogaeth tra yn yr ysbyty.
Beth i'w ddisgwyl
Bydd atgyfeiriadau yn cael eu brysbennu, a’u dyrannu yn arwain at asesiad. Bydd pob claf yn cael ei weld a'i asesu wyneb yn wyneb. Yn dilyn asesiad, gall y tîm cyswllt iechyd meddwl roi gwybodaeth a chyngor i'r claf/staff yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth eraill a allai helpu i gefnogi anghenion y claf a gall gynnwys sefydliadau trydydd sector. Efallai y bydd angen atgyfeirio’r claf at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu gael ei dderbyn i’r uned iechyd meddwl os oes angen.
Cysylltwch â ni
Tîm Cyswllt Iechyd Meddwl
Yr Uned Iechyd Meddwl
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ynysmaerdy
Pont-y-clun
CF72 8XR
01443 443443 est 75615