Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae'r Ward Derbyniadau’n cynnig cyfnod dwys o asesu wedi'i gefnogi gan adolygiadau amlddisgyblaethol dyddiol i geisio datrys problemau a throsglwyddo i wasanaethau cymunedol am gefnogaeth barhaus.
Er y bydd triniaeth neu ymyrraeth yn dechrau cyn gynted ag y nodir, mae'r ward yn chwarae rhan wrth benderfynu ar y maes mwyaf effeithiol ar gyfer gofal a thriniaeth barhaus. Yn dilyn cyfnod asesu o hyd at 10 diwrnod, bydd y tîm yn penderfynu a yw’n well darparu gofal parhaus yn unrhyw un o’r meysydd canlynol:
Triniaeth yn yr ysbyty
Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng
Y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol
Gofal Sylfaenol
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un dros 18 oed sydd angen asesiad claf mewnol gael mynediad at y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, mae pob atgyfeiriad ar gyfer derbyniad yn cael ei reoli gan y Tîm Triniaeth yn y Cartref i Ddatrys Argyfwng (CRHT) a fydd yn cynnal asesiad o anghenion iechyd meddwl unigolyn i sefydlu a oes angen derbyn y claf.
Ni dderbynnir atgyfeiriadau ar gyfer mynediad yn uniongyrchol gan unigolion, aelodau o'r teulu neu asiantaethau trydydd sector
Beth i'w ddisgwyl
Rydym yn cynnig amgylchedd gofalgar ac yn ymdrechu i wneud adferiad claf mor llyfn â phosibl gyda'r nod o nodi'r hyn y gallai fod ei angen ar y person hwnnw ar ffurf cefnogaeth gwasanaeth iechyd meddwl i allu trosglwyddo'n ôl adref.
Rydym yn darparu asesiad cyfannol ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol o feddygon, fferyllwyr a nyrsys. Bydd eich gofal yn cael ei drafod o fewn y tîm a gyda chi'ch hun bob dydd a bydd cymorth yn cael ei roi ar waith i fynd i'r afael â'ch anghenion iechyd meddwl
Bydd Nyrs Sylfaenol yn cael ei neilltuo i bob claf a fydd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth asesu bellach wrth iddi ddod ar gael ac am gydgysylltu’r broses o ddarparu triniaeth/ymyrraeth wedi’i chynllunio.
Mae'r staff yn annog cyfranogiad gweithredol a chydweithrediad y claf ar bob cam o'r broses asesu a lle bo'n briodol, cynnwys y teulu/gofalwyr neu bobl eraill arwyddocaol.
Cysylltwch â ni
Uned Derbyniadau
Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Llantrisant
Ynysmaerdy
CF72 8XR
Rhif Ffon:
01443 443 434 estyniad 74788