Neidio i'r prif gynnwy

Arwyddion a symptomau

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe sy’n debyg i leinin y groth yn dechrau tyfu mewn mannau eraill, fel yr ofarïau a'r tiwbiau ffalopaidd.

Gall endometriosis effeithio ar fenywod, a phobl a neilltuwyd fel benywaidd ar enedigaeth o unrhyw oedran gan gynnwys pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae'n gyflwr hirdymor a all gael effaith sylweddol ar eich bywyd, ond mae triniaethau a all helpu.

Mae symptomau endometriosis yn cynnwys:

  • Poen o gwmpas amser eich mislif sy'n ymyrryd â'ch bywyd bob dydd 
  • Poen pelfig cronig (yn para dros 3 mis)
  • Poen yn ystod neu ar ôl cyfathrach rywiol drwy’r wain neu archwiliadau fagina 
  • Poen a/neu gwaedu tra’n carthu (pooing).
  • Poen a/neu gwaedu tra’n troethi neu gyda bledren llawn. 
  • Blinder cronig (teimlo'n flinedig drwy'r amser er gwaethaf cael digon o gwsg) 
  • Chwyddo yn yr abdomen a all fod yn boenus neu beidio 
  • Poen yn rhan isaf y cefn, poen yn eich coesau, teimlad o bwysau trwm yn eich pelfis 

Yn ogystal, mae’n bosib y byddwch chi’n fwy tebygol o gael endometriosis os oes gennych y canlynol:

  • Hanes teuluol o endometriosis (yn enwedig os mai eich mam neu'ch chwaer ydyw)
  • Os ydych chi wedi profi poen mislif sydd wedi eich atal rhag gallu mynychu'r ysgol yn rheolaidd
  • Poen nad yw'n cael ei leddfu gan analgesia syml fel parasetamol a/neu ibuprofen

I gael mwy o wybodaeth am endometriosis, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

Dilynwch ni: