Hoffem argymell ystod o wasanaethau ac asiantaethau a allai fod o fudd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Hwb Helpu Cynnar
Ei nod yw cefnogi teuluoedd o fewn ardal Merthyr Tudful sydd â phlant 0-18 oed.
Gall hwb helpu cynnar gefnogi teulu i gael mynediad at y cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion. Maen nhw’n darparu gwybodaeth a chymorth ynghylch:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Hwb Helpu Cynnar ar 01685 725000 neu EarlyHelp.Hub@merthyr.gov.uk.
Hwb Helpu Cynnar Merthyr
Teuluoedd Cydnerth
Nod y Gwasanaeth yw darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cyflymach; asesiad diagnostig byrrach a chliriach; un pwynt cyswllt y gellir ymddiried ynddo a chymorth ymarferol rhagweithiol i ymgysylltu ag ymyriadau a gynlluniwyd i gynyddu lefelau gwydnwch.
Gellir gwneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth drwy’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn y modd canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, cysylltwch â 01443 281435 neu rfs@rctcbc.gov.uk
Bydd yr holl atgyfeiriadau'n cael eu 'brysbennu' gan y Tîm IAA i'w dyrannu yn ôl risg/angen. Bydd atgyfeiriadau a dderbynnir gan y Tîm IAA nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy Gwasanaethau Plant Cydnerth a ystyrir yn briodol ar gyfer ymyrraeth yn cael eu dyrannu i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Bydd e-byst yn cael eu darllen yn ystod oriau swyddfa yn unig o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30yb - 17:00yp.
YEPS
Mae YEPS yn cynnig mynediad i bobl ifanc 11-25 oed i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid. Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yn rhedeg rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fel person ifanc, gallwch gymryd rhan trwy weld eich gweithiwr YEPS mewn ysgolion, colegau, neu drwy'r wefan.
Mae YEPS yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ar sail un i un (gwaith cyfeirio) a/neu sesiynau grŵp.
Cynigir darpariaeth a chefnogaeth YEPS trwy:
Gofalwyr Ifanc
Prosiect Gofalwyr Ifanc RhCT 01443 425006 / youngcarerssupportteam@rctcbc.gov.uk
Pobl ifanc sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind gyda salwch, anabledd, cyflyrau iechyd meddwl neu gaethiwed.
Hwb Helpu Cynnar
Mae’r Hybiau Helpu Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Gan weithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau cymunedol a phartneriaeth lleol, mae’r tîm yn gallu teilwra cymorth i’r anghenion niferus y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, gan ddarparu cymorth tymor byr.
Gall Gweithwyr Cymorth weithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc i ddod o hyd i’r atebion cywir iddyn nhw a’u teulu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:
I gael mynediad at y cymorth o fewn yr Hybiau Helpu Cynnar, cysylltwch â’r Tîm Sgrinio Helpu Cynnar:
E-bost: Earlyhelp@bridgend.gov.uk / Ffôn: 01656 815420
Mental Health Matters Wales
Croeso i Mental Health Matters Wales (MHM Wales)
Mae Mental Health Matters yn darparu cefnogaeth iechyd emosiynol, lles i’r cyhoedd, trwy gynnig gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chefnogaeth.
Ffôn: 01656 767045