Yr Hyn Rydyn Ni’n ei Wneud
Mae Ffisiotherapyddion Anadlol yn asesu ac yn trin cleifion gydag anhwylderau’r system anadlol fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, bronciectasis ac asthma. Rydyn ni hefyd yn trin cleifion sy’n cael eu derbyn i gael mathau penodol o lawdriniaeth ac yn adsefydlu cleifion sydd ar uned gofal critigol ac uned dibyniaeth fawr yr ysbyty.
Mae hyn yn cael ei ddarparu mewn awyrgylch gofalgar a chyfeillgar gan ymarferwyr medrus sy’n gweithio i safonau uchaf ymarfer proffesiynol ac yn defnyddio’r dystiolaeth a’r ymchwil ddiweddaraf.
I Bwy mae’r Gwasanaeth?
Rydyn ni’n trin cleifion gyda chyflyrau ar y frest y mae angen cymorth arnyn nhw gyda’r canlynol:
Rydyn ni hefyd yn trin cleifion mewnol presennol sydd:
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae cleifion mewnol yn cael eu hatgyfeirio gan y meddygon ar y ward, ac mae cleifion allanol yn cael eu hatgyfeirio gan feddyg arbenigol, meddyg teulu neu nyrs anadlol.
Amseroedd Agor
Yn gyffredinol: Rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gwasanaeth ar alw os bydd argyfwng: 24 awr y dydd
Beth i'w Ddisgwyl
Bydd y ffisiotherapydd anadlol yn asesu brest cleifion mewn amryw ffyrdd yn ogystal â’u gallu i symud yn gyffredinol. Ar ôl yr asesiad hwn, bydd y ffisiotherapydd yn datblygu cynllun triniaeth gyda’r claf er mwyn mynd i’r afael â’r problemau sydd wedi eu nodi.
Gall y driniaeth amrywio’n fawr yn dibynnu ar y broblem ond gallai gynnwys ymarferion anadlu, technegau â llaw, gosod eich hun yn ddiogel, rheoli diffyg anadl, presgripsiwn ymarfer corff ac atgyfeiriad at raglen adsefydlu. Gallwn ni atgyfeirio at wasanaethau eraill yn yr ysbyty ac yn y gymuned hefyd
Manylion Cyswllt
Ysbyty Tywysog Siarlandrew.murphy@wales.nhs.uk | Jon Murphy Arweinydd Tîm Ystad y Gurnos Merthyr Tudful CF48 9DT 01685 728703Ysbyty Brenhinol Morgannwgdominic.anderson2@wales.nhs.uk | Dominic Anderson Ynysmaerdy Llantrisant CF72 8XR 01443 443443Ysbyty Tywysoges Cymrusian.roberts2@wales.nhs.uk | Sian Roberts Heol Coety Pen-y-bont ar Ogw CF31 1RQ
Dolenni defnyddiol