Cais amlinellol arfaethedig am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu Canolfan Iechyd a Llesiant newydd

Fel rhan o'i gynlluniau i ddatblygu gwasanaethau iechyd a llesiant ar gyfer Maesteg a Dyffryn Llynfi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol ar gyfer Canolfan Iechyd a Llesiant newydd, ynghyd â phriffyrdd, draenio a seilwaith tirwedd cysylltiedig, ar dir i'r de o Heol Ewenni, Maesteg, CF34 9TR.

Mae cyfnod ymgynghori 28 diwrnod yn dechrau ddydd Gwener 20 Tachwedd a bydd yn parhau ar agor am 28 diwrnod. Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd wneud sylwadau ar y cynigion cyn cyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl).

Mae'r cais a'r ymgynghoriad yn cael eu rheoli gan The Urbanists, sy'n gweithredu ar ran y Bwrdd Iechyd fel ymgynghorwyr cynllunio mewn perthynas â'r tir.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o'r broses gynllunio statudol ar y datblygiad arfaethedig a chynlluniau'r safle ac mae ar wahân i'n rhaglen ymgysylltu â'r cyhoedd.

Gellir gweld copïau o'r cais arfaethedig, cynlluniau a dogfennau ategol ar-lein yn:

https://theurbanists.net/planning-application/maesteghwc

Mae cyfleusterau cyfrifiadurol ar gael i unrhyw un sy'n dymuno gweld y wybodaeth ar-lein yn:

Llyfrgell Maesteg

Neuadd y Dref Maesteg

Stryd Talbot

Maesteg

CF34 9DA

Oriau agor y llyfrgell yw:

• Dydd Mawrth, Dydd Mercher a Dydd Sadwrn: 9.00am i 5.00pm

• Dydd Iau a Dydd Gwener: 9.00am i 5.30pm

• Ar gau ar ddydd Llun a Dydd Sul