Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld eu symptomau tinitws yn gwella heb yr angen am gymorth pellach wrth i'w hymennydd addasu, 'cynefino' ac yn dysgu anwybyddu'r tinitws. Fodd bynnag, mae amrywiaeth o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i reoli eich tinitws os ydych yn ei chael yn drafferthus.
Myfyrdod ac anadlu/ymwybyddiaeth ofalgar:
Gall lleihau lefelau straen gael effaith gadarnhaol ar y ffordd rydych chi'n rheoli'ch tinitws. Mae anadlu, ymlacio a myfyrio dwfn yn ddulliau defnyddiol o gyflawni hyn.
Cyfoethogi sain
Gall defnyddio sain yn y cefndir helpu i dynnu sylw oddi wrth y tinitws a'i gwneud yn llai amlwg. Mae rhai unigolion yn gweld bod cael y radio neu'r teledu ymlaen yn y cefndir yn gallu helpu. Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio sain i dynnu sylw oddi wrth eich tinitws yn ystod amser gwely wrth geisio mynd i gysgu, gall rhywbeth llai ysgogol fel synau ymlacio neu sŵn gwyn helpu. Mae yna nifer o apiau y gallwch eu lawrlwytho ar gyfer hyn fel:
Relief by GN Resound
(Ar gael yn yr App Store (Apple) neu Play Store (Android) Tinnitus Relief App gan ReSound | ReSound UK
Os nad oes gennych ffôn clyfar i lawrlwytho apiau, mae yna eneraduron sain ochr gwely gallwch eu prynu trwy gwmnïau fel: Connevans
Cymhorthion clyw:
Os oes gennych tinitws a bod gennych golled clyw, gall cymhorthion clyw helpu i gynorthwyo rheoli tinitws trwy ganiatáu i chi glywed mwy o sŵn amgylcheddol o'ch cwmpas, a all helpu i dynnu sylw oddi wrth y tinitws.