Nac ydy. Rydym yn gwneud y newid hwn oherwydd nad oes gennym ar hyn o bryd nifer y meddygon strôc arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel yn y ddau ysbyty ar hyn o bryd.
Mae adnoddau sylweddol wedi cael eu gwario, ac maen nhw’n parhau i gael eu gwario ar wasanaethau strôc, gan gynnwys ar staff dros dro, wrth i ni geisio cynnal gwasanaeth i'n cymunedau o fewn CTM a thu hwnt.