Bydd cleifion sy'n dioddef â strôc bosibl ac sy'n cael eu cludo mewn ambiwlans yn cael eu cludo yn uniongyrchol i'r uned strôc acíwt gyfun yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, neu i'r uned strôc arbenigol agosaf.
Dydy’r newid hwn ddim yn effeithio ar allu adrannau argyfwng yn unrhyw un o'n hysbytai – gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl, neu Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr – i ddarparu’r driniaeth gychwynnol i’r rhai sy'n mynychu â strôc neu strôc bosibl.
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw glaf sy'n dioddef â strôc sy'n mynychu unrhyw un o'n hadrannau argyfwng yn parhau i gael y driniaeth frys sydd ei hangen arnyn nhw, gan gynnwys thrombolysis (meddyginiaeth chwalu clotiau) yn gyflym ac yn arbenigol. Yna bydd cleifion sydd angen triniaeth a gofal mwy dwys yn cael eu trosglwyddo drwy ambiwlans pwrpasol i'r uned strôc acíwt ganolog yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.