Oherwydd prinder staffio meddygol difrifol mae angen i'r bwrdd iechyd wneud newid brys, dros dro i rai o'i wasanaethau strôc ysbyty cleifion mewnol.
Bydd yr uned strôc aciwt, sy'n cynnwys ystod o staff arbenigol sy'n trin a gofalu am y rhai sydd wedi profi strôc, yn symud o Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i ymuno â'r uned strôc acíwt yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025.
Mae'r newid hwn yn cael ei wneud oherwydd nad oes gennym ar hyn o bryd nifer y meddygon strôc arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel yn y ddau ysbyty ar hyn o bryd.
Dydy’r newid hwn ddim yn effeithio ar allu adrannau argyfwng yn unrhyw un o'n hysbytai – gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl, neu Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr – i drin y rhai sy'n mynychu â strôc neu strôc bosibl. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw glaf sy'n dioddef â strôc sy'n mynychu unrhyw un o'n hadrannau argyfwng yn parhau i gael y driniaeth frys sydd ei hangen arnyn nhw, yn gyflym ac yn arbenigol.
Yna bydd cleifion sydd angen triniaeth a gofal mwy dwys yn cael eu trosglwyddo drwy ambiwlans pwrpasol i'r uned strôc acíwt ganolog yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Rydym yn gwerthfawrogi'r pryder y mae'r cyhoeddiad am y newid brys hwn wedi'i achosi. Fodd bynnag, mae diffyg staff arbenigol yn y DU, a waethygodd gan salwch ac absenoldeb tymor hir o fewn tîm strôc BIPCTM, yn golygu nad yw'n bosibl cynnal gwasanaeth strôc acíwt diogel ar draws dau ysbyty ar hyn o bryd.
Mae gwneud y newid hwn yn golygu y gall BIPCTM barhau i ddarparu gwasanaeth sy'n achub bywydau ac yn lleihau effeithiau dinistriol strôc i gymaint o gleifion â phosibl.
Er ein bod yn gweithredu'r newid hwn, rydym yn parhau i weithio'n galed i fynd i'r afael â'r heriau staffio er mwyn gwneud gofal strôc yn fwy cynaliadwy a hygyrch i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu o fewn CTM a rhanbarth ehangach de Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch cydweithrediad.
Diweddarwyd ddiwethaf 23.12.24