Neidio i'r prif gynnwy

Y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR)

Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol iawn sy'n amddiffyn yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.

Cefndir

Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol sy'n amddiffyn yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (brech goch yr Almaen).  

Mae'r frech goch, clwy’r pennau a rwbela yn glefydau heintus iawn sy'n gallu lledaenu'n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi'u brechu. Er bod y clefydau hyn fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn aml yn achosi effeithiau hirdymor, gall rhai pobl gael cymhlethdodau difrifol.  Gall y cymhlethdodau hyn gynnwys llid yr ymennydd (dolen allanol), enseffalitis (chwyddo'r ymennydd) a cholli clyw. Gall rwbela (brech goch yr Almaen) arwain at gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd sy'n effeithio ar y babi heb ei eni a gall achosi camesgoriad. Gall pobl farw o'r clefydau hyn. Yn y gorffennol, roedd tua un o bob 5000 o bobl a ddaliodd y frech goch yn marw o'r clefyd.  

Mae cael eich brechu yn bwysig.  

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael y brechlyn MMR wedi gostwng ers dechrau pandemig COVID-19. Mae hyn yn golygu bod plant nad ydynt wedi'u brechu, neu eu brechu'n rhannol yn unig, heb eu hamddiffyn. Mae hyn yn cynyddu'r risg o frigiadau o achosion o'r frech goch mewn meithrinfeydd neu ysgolion.  

Gall hyn oed gostyngiad bach yn nifer y bobl sy'n cael y brechiad MMR arwain at gynnydd mewn achosion o'r frech goch. Gan fod mwy o deithio rhyngwladol ers i'r cyfyngiadau COVID-19 gael eu codi, mae siawns uwch y bydd y frech goch yn cael ei chario yn ôl o wledydd lle mae'n gyffredin.  

Cael dau ddos o'r brechlyn MMR yw'r ffordd orau o'ch amddiffyn chi a'ch plentyn yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.  

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn a chlefydau yn GIG 111 Cymru - Brechlynnau (dolen allanol)

Dilynwch ni: