Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â thymor COVID-19 2025-26.
Diweddarwyd: 10 Hydref 2025
Mae Coronafeirws (COVID-19) yn afiechyd heintus a achosir gan y firws SARS-CoV-2. Bydd gan y rhan fwyaf o bobl a heintir gan y feirws salwch resbiradol ysgafn i ganolig ac yn gwella heb fod angen triniaeth. Fodd bynnag, gall rhai pobl gael eu taro'n ddifrifol wael a bod angen gofal meddygol.
Mae pobl hŷn sydd â chyflyrau meddygol megis clefyd y galon, clefyd siwgr, canser neu afiechyd resbiradol cronig (trafferthion anadlu hirdymor) yn fwy tebygol o ddatblygu salwch difrifol.
Mae rhai o symptomau cyffredin COVID-19 yn cynnwys peswch newydd, parhaus, colli neu newid y gallu i arogli neu flasu, poenau, cur pen, blinder a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo'r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Maent wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau i’w defnyddio yn y DU fel brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ar ddefnyddio gwahanol gynhyrchion brechu fel rhan o raglen frechu COVID-19.
Darllen atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml am y brechiad COVID-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cyflwynodd y DU ei rhaglen brechu COVID-19 ym mis Rhagfyr 2020 i helpu i atal salwch difrifol, arosiadau yn yr ysbyty a marwolaethau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty ac yn marw o COVID-19 wedi gostwng.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae COVID-19 yn ysgafn, er y gall wneud i chi deimlo'n sâl o hyd. Fodd bynnag, mae rhai pobl mewn mwy o berygl o salwch difrifol.
Nod rhaglen brechu COVID-19 yw amddiffyn y rhai sydd mewn mwyaf o berygl o salwch difrifol. Mae COVID-19 yn fwy difrifol i bobl hŷn (gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal) a'r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Mae'r grwpiau hyn yn dal yn fwy tebygol o fod angen triniaeth yn yr ysbyty os ydyn nhw’n cael COVID-19.
Wrth i COVID-19 barhau i ledaenu yng Nghymru, mae'n bwysig iawn i chi neu'ch plentyn gael eich brechu os ydych chi'n gymwys. Mae brechu yn helpu i leihau'r risg o fod angen gofal ysbyty oherwydd COVID-19.
Mae Cymru yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy'n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae'r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol a marwolaeth o COVID-19.
Gall cael eich brechu yn erbyn COVID-19 helpu i leihau'r risg o salwch difrifol a marwolaeth o'r feirws. Amddiffynwch eich hun a'ch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Fel rhai brechlynnau eraill, mae'n bosib y bydd lefel yr amddiffyniad yn dechrau gwanhau dros amser. Bydd y dos tymhorol yn helpu i'ch amddiffyn am gyfnod hirach.
Bydd hefyd yn helpu i leihau'r peryg o fod angen mynd i'r ysbyty oherwydd haint COVID-19.
Os ydych chi'n gymwys, byddwch chi'n cael cynnig dos yr hydref rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o'r brechlyn. Os ydych chi'n sâl ac yn methu cael y brechlyn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, efallai y byddwch chi'n gallu ei gael ym mis Ionawr.
Os ydych chi'n gymwys, cynigir y dos gwanwyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o'r brechlyn. Os ydych chi'n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch chi'n gallu ei gael ym mis Gorffennaf.
Dylech anelu at gael y brechlyn cyn gynted â phosibl pan gewch gynnig iddo.
Bydd y GIG yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd a ble i gael y brechlyn. Mae'n bwysig mynychu'r apwyntiad pan gewch wahoddiad. Bydd eich apwyntiad yn un o'n chwe Chanolfan Brechu Cymunedol. Bydd nifer o glinigau COVID-19 dros dro ar gael i bobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy anghysbell o CTM.
Os na allwch fynychu, rhowch wybod i'r tîm sy’n trefnu apwyntiadau fel y gallan nhw roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad.
Am fwy o fanylion, ewch i dudalen rhaglen frechu COVID-19 ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae COVID-19 yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i oedolion hŷn a'r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Bydd oedolion sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol COVID-19 yn cael cynnig y brechiad ddwywaith y flwyddyn i leihau'r risg o salwch difrifol neu farwolaeth o COVID-19.
Bydd oedolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o'r brechlyn COVID-19.
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a'ch cyflwr.
Gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n oedi cyn cael eich brechlyn COVID-19 os cewch gyngor i wneud hynny.
Mae system imiwnedd wan yn golygu na all eich corff ymladd heintiau cystal ag y byddai fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:
Am ragor o wybodaeth am raglen frechu COVID-19 genedlaethol hydref 2025, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch bwrdd iechyd lleol.
Gall COVID-19 effeithio ar unrhyw un. I'r rhan fwyaf o blant, salwch ysgafn yw COVID-19 sy'n anaml yn arwain at broblemau. Fodd bynnag, mae rhai plant mewn mwy o berygl, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda rhai cyflyrau iechyd.
Cynghorir y rhai rhwng chwe mis a 17 oed sydd â system imiwnedd wan i gael y brechlyn COVID-19 ddwywaith y flwyddyn, fel rhan o'r rhaglenni brechu COVID-19 tymhorol. Mae brechu yn lleihau'r siawns o fynd yn sâl iawn neu farw o COVID-19. Mae cael brechiad yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol a'r angen am ofal ysbyty.
Bydd plant a phobl ifanc rhwng chwe mis a 17 oed sydd â system imiwnedd wan yn cael cynnig y brechlyn COVID-19 fel rhan o'r rhaglenni brechu tymhorol. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd:
Dylid ystyried brechu plant a phobl ifanc sydd ar fin dechrau cymryd meddyginiaeth a fydd yn atal eu system imiwnedd cyn hyn.
Am ragor o wybodaeth am raglen frechu COVID-19 genedlaethol hydref 2025, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch bwrdd iechyd lleol.
Mae'r holl feddyginiaethau a brechlynnau yn y DU yn cael eu monitro'n agos gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Maent wedi cymeradwyo'r brechlynnau i'w defnyddio gyda phlant a phobl ifanc, gan eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol.
Am ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 a roddir i blant a phobl ifanc, am eu cynnwys a'u sgil effeithiau posib, ewch i medicines.org.uk/emc (safle allanol, Saesneg yn unig). Bydd angen ichi nodi'r geiriau 'COVID vaccine' yn y blwch chwilio. Gallwch hefyd weld taflen y claf ar-lein.
Efallai na fydd y rhai chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol bob amser yn meithrin imiwnedd llawn i COVID-19. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall arbenigwyr meddygol eich cynghori i gael dosau ychwanegol i wella'ch amddiffyniad. Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi y tu allan i'r rhaglen dymhorol, i hybu eich amddiffyniad tan yr ymgyrch frechu nesaf.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch â'ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw'n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu'ch plentyn.