Neidio i'r prif gynnwy

Canolfannau Brechu Cymunedol Cwm Taf Morgannwg

Mae gan BIP Cwm Taf Morgannwg chwe chanolfan frechu gymunedol.

Mae'r lleoliadau wedi cael eu dewis yn ofalus i geisio cwmpasu ardal y Bwrdd Iechyd mor deg â phosibl. Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr apwyntiad, bydd yn nodi'n glir pa leoliad y dylech fynd iddo.

Mae’r llinell trefnu apwyntiad ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5pm: 01685 726464 neu anfonwch e-bost atom yn - ctm.vaccinationenquiries@wales.nhs.uk

Mynd i apwyntiad brechiad COVID-19

Peidiwch â dod i gael dos atgyfnerthu COVID-19 os ydych chi’n teimlo'n sâl neu os oes gennych chi unrhyw symptomau COVID-19.

Mae ein chwe Chanolfan Frechu Cymunedol isod:

Canolfan Frechu Cymunedol Dewi Sant

Canolfan Frechu Cymunedol Ysbyty George Thomas

Canolfan Frechu Cymunedol Keir Hardie

Canolfan Frechu Cymunedol Ysbyty Tywysoges Cymru (Adran Iechyd Galwedigaethol ar y llawr cyntaf)

Canolfan Frechu Cymunedol Ysbyty Cwm Cynon

Canolfan Frechu Cymunedol Maesteg

Dilynwch ni: