Neidio i'r prif gynnwy

Llais Babanod a Phlant Cwm Taf Morgannwg

Mae’r cyfnod cyn i mi gael fy ngeni tan fy mod yn ddwy oed, yn bwysig ar gyfer fy natblygiad. Bydd fy mhrofiadau, fy amgylchedd ac, yn arbennig, y cysylltiadau sydd gen i â phobl sy’n gofalu amdana i yn dylanwadu ar fy mherthynas, ymddygiad, dysgu a lles emosiynol yn y dyfodol ar hyd fy oes.i

Mae'n bwysig eich bod chi’n fy ngweld fel fy mherson fy hun gyda theimladau, hawliau a dewisiadau. Rwy’n dibynnu arnoch chi i ystyried fy marn a dehongli beth rydw i’n ceisio ei ddweud wrthych, felly rwy’n ganolog i bob penderfyniad sy’n effeithio arna i ac sy’n fy nghadw’n ddiogel.ii

Er mwyn fy helpu i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel, mae’n bwysig bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau i ystyried fy hawliau, yn ogystal â hawliau pob plentyn mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Roedd rhieni a dros 120 o staff sy'n gweithio gyda rhai bach fel fi, yn ystyried fy hawliau fel sy’n cael ei nodi yn CCUHP iii Roedd rhieni a dros 120 o staff sy'n gweithio gyda rhai bach fel fi, yn ystyried fy hawliau fel sy’n cael ei nodi yn CCUHP a defnyddio fy llais i ddrafftio’r disgwyliadau hyn mewn nifer o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a drefnwyd gan Raglen Trawsnewid Blynyddoedd Cynnar Cwm Taf Morgannwg, Plant yng Nghymru a Parent-Infant Foundation.

Mae angen arna i…

  • Mae angen i mi gael fy nghadw'n lân, yn gynnes a chael bwyd iach a lloches i dyfu a ffynnu. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 6 a 27
  • Mae angen i chi ddeall fy mod i’n dibynnu arnoch chi i'm cadw'n agos (yn gorfforol ac mewn meddwl); i fy ngweld, ymateb i mi a chymryd amser i ddod i adnabod fi. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 3
  • Mae angen i chi ddeall sut rydw i'n cyfathrebu, dysgu fy nghiwiau ac ymateb yn gyson mewn ffordd gynnes a chariadus. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 12
  • Mae angen i chi ddeall y bydd fy mhrofiadau nawr yn effeithio ar fy nyfodol. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 3 a 6
  • Mae angen i chi gofio mai fi yw fy mherson fy hun: gadewch i mi fod yn fi ac ystyriwch fi ym mhob penderfyniad rydych chi’n ei gwneud. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 3, 8 a 29
  • Mae angen lle diogel arna i i chwarae a dysgu, i gael hwyl ac i deimlo'n hapus; helpa fi i deimlo'n ddiogel a'm hamddiffyn rhag pethau rwy'n eu cael yn ofnus. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 19, 29 a 31
  • Mae angen cyfleoedd arna i i ryngweithio ag eraill a dysgu o brofiadau newydd. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 2
  • Mae angen i chi fy helpu i ddatblygu cysylltiadau gyda (babanod eraill) ffrindiau, teulu a fy nghymuned. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 6, 8 a 15

Mae angen i fy oedolyn dibynadwy...

  • Mae angen i’m hoedolyn dibynadwy i ddeall pwysigrwydd perthnasoedd diogel a gofalgar nawr, yn ogystal ag yn y dyfodol.
  • Mae angen i’m hoedolyn dibynadwy i ofalu am fy iechyd, a'i hiechyd cyn, yn ystod ac ar ôl i mi gyrraedd, ac i estyn allan am help os nad yw pethau'n iawn.
  • Mae angen i’m hoedolyn dibynadwy i ddeall ac ymateb i fy anghenion unigryw.
  • Mae angen i’m hoedolyn dibynadwy i gael help a gwybodaeth yn y ffordd iawn, ar yr amser iawn, ac yn y lle iawn er mwyn iddo allu gwneud y dewisiadau gorau i mi.

Mae arnom ni angen...

  • Mae angen mynediad arnom ni at drafnidiaeth gyhoeddus dda a fforddiadwy fel y gellir mynd â mi i lefydd diddorol ac i gael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnom. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 2
  • Mae angen palmentydd a llwybrau diogel arnom ni i gael mynediad at fannau cyhoeddus glân a gwyrdd. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 19 a 24
  • Mae angen pobl bwysig arnom ni i ddeall pa mor hanfodol yw fy mlynyddoedd cynnar i mi gyrraedd fy mhotensial llawn, ac adlewyrchu hyn ym mhob dogfen sy'n ymwneud â mi a rhai bach. Erthyglau CCUHP sy'n cefnogi datganiad 6 a 24

 

i Parent Infant Foundation (2024) The First 1001 Days Evidence Brief Series: https://parentinfantfoundation.org.uk/1001-days/resources/evidence-briefs/

ii Infant Pledge. Voice of the Infant: best practice guidelines and infant pledge - gov.scot (www.gov.scot)

iii United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC): UN Convention on the Rights of the Child - UNICEF UK

**We acknowledge that the baby’s main caregiver may not be their biological parent but for the purposes of this resource we will use the term ‘trusted grown-up’.

Dilynwch ni: