Rydym eisiau clywed gan blant a phobl ifanc a theuluoedd...
- Sut hoffech chi gael eich trin gennym a pha fath o ofal yr hoffech chi ei gael?
- Sut gallwn ni wella ein gwasanaethau ar eich cyfer chi?
- Sut gallwn ni sicrhau bod plant a phobl ifanc yn chwarae rhan fwy gweithredol yn eu gofal?
- Pa hawliau sy'n sefyll allan i chi a pham?
Rydyn ni wedi creu'r templed hawdd hwn i chi ei lawrlwytho a'i ddychwelyd atom.
(Sylwer: bydd eich templed yn cael ei ddefnyddio ar wefan ein Siarter ac yn cael ei rannu hefyd ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol CTM felly dylech ond anfon llun a sylwadau atom os ydych chi’n hapus i ni eu defnyddio'n gyhoeddus. Os ydych chi’n eu hanfon ar ran pobl eraill, sicrhewch eich bod yn cael caniatâd ganddyn nhw bob amser).
Sut i gyflwyno
- Lawrlwythwch y templed
- Defnyddiwch y templed i rannu pa hawl sydd bwysicaf i chi a pham (gallwch chi anfon cynifer o dempledi atom ag y dymunwch!)
- E-bostiwch eich templed wedi'i gwblhau i: CTM.OurHealthOurFuture@wales.nhs.uk
- Methu lawrlwytho'r templed? Peidiwch â phoeni – gallwn ni ei gwblhau ar eich rhan. Anfonwch eich sylwadau a'ch llun i'r cyfeiriad e-bost uchod (gan roi’r teitl Adborth ar Siarter Plant CTM). Peidiwch ag anghofio sôn am ba 'Hawl plant' rydych chi'n cyfeirio ati yn eich neges.