Rydym yn angerddol dros gadw ein plant a phobl ifanc Cwm Taf Morgannwg yn iach a hapus.
Mae'r hawliau, a adwaenir fel ein Siarter Plant, yn seiliedig ar egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae’r cytundeb rhyngwladol hwn yn nodi hawliau’r plentyn ac fe’i defnyddir ar gyfer datblygu polisi i gefnogi plant ledled y byd.
Mae ein Siarter ar gyfer pob plentyn (0-18 oed) sy’n byw yng Nghwm Taf Morgannwg, ni waeth a ydynt yn byw gyda’u rhieni biolegol, mewn gofal maeth, yn byw’n annibynnol neu mewn unrhyw sefyllfa arall.