Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR)

Bob blwyddyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i dalu am ofal iechyd i'r rhai sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ac sydd â hawl i Ofal y GIG. Ein gwaith ni yw cael y gwerth mwyaf am yr arian trwy ei wario’n ddoeth ar eich rhan. 

Mae’r galw am ofal iechyd yn cynyddu. Mae triniaethau newydd sy’n aml yn ddrud yn cael eu datblygu bron pob wythnos. Ein blaenoriaeth yw talu am y triniaethau hynny sy’n effeithiol yn glinigol, sy’n gallu dangos eu bod yn gwella iechyd pobl ac yn cynnig gwerth am arian. 

O ganlyniad, dydyn ni ddim yn cynnig rhai triniaethau fel arfer ac mae’r rhain yn cynnwys dau gategori gwahanol:    

  • Triniaethau sy'n newydd, yn arloesol, yn datblygu neu heb eu profi ac nad ydynt fel arfer ar gael o fewn amserlen arferol gwasanaethau a thriniaethau'r Bwrdd Iechyd (er enghraifft, cais am gyffur canser nad yw wedi'i gymeradwyo eto i'w ddefnyddio'n rheolaidd o fewn GIG Cymru ar gyfer y cyflwr penodol hwnnw) 
      

  • Triniaethau sy’n cael eu darparu mewn rhai amgylchiadau clinigol yn unig lle na fydd pob claf yn gymwys yn unol â'r meini prawf clinigol ar gyfer y driniaeth honno (er enghraifft, cais am driniaeth gwythiennau faricos)    

Gall eich meddyg teulu neu eich ymgynghorydd yn yr ysbyty ofyn i ni ariannu triniaeth fydden ni ddim fel arfer yn ei chynnig i chi ar eich rhan. Yr enw ar hyn yw gwneud Cais Cyllido Cleifion Unigol neu (IPFR), ac mae GIG Cymru yn dilyn polisi clir wrth wneud penderfyniadau am y ceisiadau hyn.  

Cyflwyno IPFR 

Dim ond clinigwr GIG all wneud cais 

Mae Polisi Cymru Gyfan, Gwneud Penderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR), yn nodi'n glir y broses ar gyfer delio â cheisiadau o'r fath a sut y gellir gwneud cais. 

Ein dull dewisol o gyflwyno ceisiadau am gyllid yw trwy Gyflwyniad Electronig IPFR. Bydd gofyn i glinigwyr gofrestru am gyfrif drwy’r ddolen ganlynol; 

Ewch i Gronfa Ddata IPFR Cymru Gyfan i gyflwyno cais am gyllid. Rhaid i glinigwyr wneud ceisiadau. 

Costau teithio 

Byddwch yn ymwybodol nad yw'r Polisi IPFR yn talu costau teithio gofal iechyd. 

Mae gwybodaeth am gymhwysedd cleifion ar gyfer costau teithio gofal iechyd i dderbyn triniaeth y GIG dan ofal ymgynghorydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (SBU). 

Ewch i'r dudalen Cymorth gyda chostau teithio'r GIG ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarganfod a oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio'r GIG. 

 

Dilynwch ni: