Fel arfer, diffiniad cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw yw cais i glaf dderbyn triniaeth drefn ddyddiol y tu allan i wasanaethau lleol neu drefniadau contract sefydledig.
Dim ond pan fydd yr holl opsiynau triniaeth sydd ar gael o fewn gwasanaethau sy’n cael eu darparu yn lleol neu sy’n cael eu contractio wedi'u disbyddu y dylid defnyddio'r llwybr cymeradwyaeth ymlaen llaw, a'i bod yn briodol yn glinigol ystyried cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd mewn mannau eraill.
Gan amlaf, bydd cais o’r fath yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
Ail farn
Diffyg arbenigedd/gwasanaethau lleol/wedi eu comisiynu
Parhad clinigol gofal (sy’n cael ei ystyried fesul achos)
Trosglwyddo yn ôl i’r GIG ar ôl hunangyllido gwasanaeth yn y sector preifat
Atgyfeiriad arall yn dilyn atgyfeiriad blaenorol at ofal trydyddol
Myfyrwyr
Cyn-filwyr
Nid yw'r polisi Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw yn berthnasol i'r ffactorau canlynol: (wedi'i godi o bolisi PAR)
Ni fydd ffactorau anghlinigol (megis statws cyflogaeth) yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau ar geisiadau am gymeradwyaeth ymlaen llaw.
Ni fydd ffactorau amser aros yn cael eu hystyried wrth ystyried cymeradwyaethau ymlaen llaw gan y bydd hyn, yn ddamcaniaethol, yn blaenoriaethu rhai cleifion dros eraill sydd yn yr un sefyllfa glinigol.
Dewis y claf. Nid yw'r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o ddewis cleifion. Fodd bynnag, mae cleifion trawsffiniol yn gallu dewis eu darparwr gofal eilaidd. Ar ôl cyflwyno ffurflen gais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw wedi'i chwblhau'n llawn, bydd panel annibynnol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau lleyg yn cyfarfod i ystyried y cais am Gymeradwyaeth Ymlaen Llaw a'r dystiolaeth glinigol.
Byddwch yn ymwybodol:
Dydy cyllid Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw ddim yn talu costau teithio gofal iechyd. Ewch i'r dudalen Cymorth gyda chostau teithio'r GIG ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarganfod a oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio'r GIG.
Fydd ceisiadau am gyllid ôl-weithredol ddim yn cael eu hystyried.
Mae manylion personol sy'n ymwneud â'r claf yn cael eu cadw’n gyfrinachol bob amser.