Neidio i'r prif gynnwy

Rhoi'r gorau i ysmygu

Rhoi'r gorau i ysmygu cyn unrhyw driniaeth ysbyty wedi'i chynllunio yw'r peth gorau y gallwch chi ei wneud i'ch iechyd. Mae'n cyflymu'ch adferiad ac mae ganddo lawer o fanteision iechyd eraill, yn ogystal ag arbed arian i chi. Oeddech chi'n gwybod mai £380 yw'r gost ar gyfartaledd i ysmygwr sy’n ysmygu 20 sigarét y dydd am fis? 

Mae gan Helpa Fi i Stopio, gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu GIG Cymru, ffeithiau a chyngor am roi’r gorau iddi, gan gynnwys y manteision arbennig, a fydd yn helpu eich corff i baratoi ar gyfer eich triniaeth. Dyma 5 cam hawdd i'ch helpu chi i: 

  1. Ceisiwch roi'r gorau iddi o leiaf 8 wythnos cyn eich triniaeth ac arhoswch yn ddi-fwg wedyn. Bydd hyn yn rhoi'r manteision mwyaf i chi. 

  1. Mae hyd yn oed rhoi'r gorau iddi ddiwrnod neu ddau cyn triniaeth - ac aros yn ddi-fwg wedi hynny - yn lleihau'r risg o rai cymhlethdodau ac yn helpu'r corff i wella'n well ac yn gyflymach ar ôl eich triniaeth. 

  1. Mae'n bwysig iawn peidio ag ysmygu ar ddiwrnod eich triniaeth. Mae pobl sy'n parhau i ysmygu yn fwy tebygol o ddioddef cymhlethdodau. 

  1. Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o gael heintiau ar y frest a phroblemau anadlu, bod mewn perygl o glotiau gwaed a chael clwyfau sy'n gwella'n arafach ar ôl llawdriniaeth na'r rhai sydd wedi rhoi'r gorau iddi. 

  1. Os ydych yn rhoi'r gorau iddi gyda therapi disodli nicotin (NRT), rhowch wybod i'ch nyrs neu feddyg a bydd yn sicrhau bod gennych beth sydd ei angen arnoch yn ystod eich arhosiad. 

Mae’r Gwasanaeth Helpa Fi i Stopio wedi’i neilltuo ar gyfer pobl yng Nghymru ac rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau iddi gyda’u cymorth a’u cefnogaeth. Gallwch eu ffonio am ddim ar 0800 08502219 neu ewch i'w gwefan 

 

Dilynwch ni: