Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau ffordd o fyw ac ymdopi â phoen

Gall newidiadau i'n hiechyd arwain at newidiadau i'n ffordd o fyw. Gall bod mewn poen effeithio'n ddifrifol ar ansawdd eich bywyd ac felly mae'n arferol ei chael hi'n anodd ymdopi ar adegau. Gall eich meddyg teulu helpu os ydych yn cael trafferth. 

Gallech hefyd siarad â'ch tîm gofal iechyd yn yr ysbyty am gyngor ar sut i reoli eich poen. Efallai y gall eich cyfeirio at wasanaeth therapi galwedigaethol neu ffisiotherapi. Mae rhai awgrymiadau cyflym ar gyfer rheoli poen yn cynnwys: 

  • Rhowch gynnig ar ymarfer anadl - anadlwch yn araf ac yn ddwfn i deimlo bod gennych fwy o reolaeth a'ch cadw'n ymlacio. 

  • Symudwch eich sylw at rywbeth arall fel nad y boen yw'r unig beth ar eich meddwl. Ewch i’r afael â gweithgaredd rydych chi'n ei fwynhau neu'n eich ysgogi. 

  • Siaradwch â rhywun – gallai rhannu eich meddyliau am eich poen gyda rhywun arall helpu i godi’r baich o ymdopi ar eich pen eich hun. 

  • Cael noson dda o gwsg - gall diffyg cwsg wneud poen yn waeth neu'n fwy anghyfforddus. 

  • Rhowch gynnig ar ymarfer corff ysgafn os gallwch chi – mae ymarfer corff yn ffordd naturiol o leddfu poen. 

  • Ymlaciwch a chadwch yn bositif – mae yna lawer o dechnegau ymlacio y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw o ymarferion anadlu, ymwybyddiaeth ofalgar neu hyd yn oed fyfyrdod. 

Os yw poen a phroblemau symudedd yn golygu eich bod yn cael trafferth gyda thasgau dyddiol, fel ymolchi a gwisgo, neu os ydyn nhw’n effeithio ar sut y gallwch ddefnyddio'ch cartref, gallech ofyn i'ch cyngor lleol drefnu asesiad anghenion gofal neu asesiad therapi galwedigaethol. 

Mae WISE yn cynnig 'cwrs Hunan-reoli Byw gyda Phoen Parhaus'. Mae'r cwrs hwn yn helpu oedolion sy'n byw gyda phoen cronig i gynnal a gwella ansawdd eu bywyd trwy hunanreolaeth. Am ragor o wybodaeth ewch iWise CTM 

Adnoddau defnyddiol eraill 

Gwybodaeth y GIG am boen: Pain - NHS 

Gwybodaeth am gwsg a blinder: Cwsg a blinder - GIG (www.nhsdirect.wales.nhs.uk) 

WISE - Wise CTM 

 

Dilynwch ni: