Mae yfed unrhyw swm o alcohol yn peri risg. Mae yfed alcohol yn cynyddu'r risg o amrywiaeth o afiechydon gan gynnwys canser y fron a chanser y coluddyn. Rydyn ni’n gwybod hefyd nad oes unrhyw fanteision iechyd i'r rhan fwyaf o bobl wrth yfed. Bydd effeithiau alcohol ar eich iechyd a lles yn dibynnu ar faint o ddiod a'r cyfnod o amser y byddwch yn ei yfed.
Po leiaf o alcohol y byddwch yn ei yfed, y lleiaf yw'r risg i'ch iechyd. Does dim terfyn diogel, ond os ydych am gadw eich risgiau iechyd yn isel:
Yfwch lai na 14 uned yr wythnos
Lledaenwch eich yfed dros dri diwrnod neu fwy
Osgowch episodau yfed trwm rheolaidd niweidiol. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu pan fyddwch chi'n yfed unrhyw swm o alcohol yn rheolaidd. Po leiaf o alcohol y byddwch yn ei yfed, y lleiaf yw'r risg i'ch iechyd. Gall yfed gormod ar unrhyw achlysur unigol (goryfed mewn pyliau) arwain at risgiau ychwanegol.
Os ydych yn anelu at gymedroli eich yfed, efallai yr hoffech gadw “dyddiadur yfed”. Bob dydd gwnewch nodyn o:
Yr holl ddiodydd alcoholig rydych chi wedi'u hyfed
Faint o'r gloch y gwnaethoch chi eu hyfed
Ble roeddech chi
Sawl uned y gwnaethoch chi ei yfed
Bydd hyn yn rhoi syniad da i chi o faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, y sefyllfaoedd rydych chi'n ei yfed, a sut y gallech chi ddechrau cwtogi. I wirio eich lefelau yfed a dysgu mwy am leihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed, ewch i Alcohol Change UK neu wefan y GIG. Os hoffech drafod lleihau faint rydych yn ei yfed, ewch at y Pwynt Mynediad Sengl Cyffuriau ac Alcohol (DASPA - Pwynt Mynediad Sengl Cyffuriau ac Alcohol). Gallwch hefyd atgyfeirio eich hun at y Tîm Gofal Alcohol lleol
Cyfrifiannell Uned Alcohol Change UK | Alcohol Change UK
Gwefan y GIG Cyngor am alcohol - NHS
DAPSA: DASPA - PWYNT MYNEDIAD UNIGOL AR GYFER CYFFURIAU AC ALCOHOL