Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Heini

Mae cadw'n heini a symud ein cyrff yn fuddiol i gadw'n iach a gall bod yn fwy egnïol cyn triniaeth gyflymu adferiad. Mae'r manteision yn cynnwys:- 

  • Lleihau straen a gorbryder; 

  • gwell gweithrediad gwybyddol (meddwl, rhesymu a chofio); 

  • gwell ansawdd cwsg; 

  • esgyrn a chyhyrau wedi'u cryfhau; 

  • llai o risg o glefydau amrywiol, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes math 2, strôc; a, 

  • chynnal pwysau iach. Bydd bod yn actif yn edrych yn wahanol i bawb. 

Os ydych chi'n newydd i ymarfer corff, dechreuwch yn fach ac adeiladu'n araf. Er enghraifft mynd am dro, cymryd y grisiau yn lle esgaladuron, mynd am daith feicio gyda ffrindiau a theulu, ymuno â chlwb chwaraeon lleol neu ddosbarth ymarfer corff wythnosol. Mae'n bwysig eich bod yn gwneud ymarfer corff mewn ffordd sy'n gweithio i chi a'ch gallu, fel ei fod yn lleihau eich risg o anaf neu frifo'ch hun. Rhai awgrymiadau cyflym ar gyfer bod yn actif yw: 

  • Dechreuwch yn araf ac adeiladu'n raddol. Rhowch ddigon o amser i chi'ch hun dwymo ac oeri gyda cherdded hawdd neu ymestyn ysgafn. 

  • Cymerwch seibiannau os oes angen. Mae gweithgareddau aml llai trwy gydol y dydd yr un mor fuddiol i chi a gallan nhw wneud ymarfer corff yn fwy hylaw. 

  • Byddwch yn greadigol. Ceisiwch feddwl am ymarfer neu symudiad y gallwch chi ei fwynhau a'i ailadrodd. Gallai hyn fod yn mynd â’r ci am dro gyda ffrind, dosbarth dawnsio, neu ba bynnag fath o symudiad y teimlwch yn hyderus ac yn gallu ei wneud. 

  • Gosodwch nod – does dim gôl yn rhy fach. Y rhan anoddaf yn aml yw cychwyn arni. Rhowch gynnig ar ymrwymiad dyddiol bach i symud mwy e.e. gall taith gerdded 15 munud y tu allan ein helpu i gadw'n gyson â threfn ymarfer corff ysgafn.  

  • Bwyta'n dda ac yfed digon o ddŵr. Mae'n bwysig cadw ar ben eich maeth ac yfed digon o ddŵr pan fyddwch chi'n dod yn actif. 

  • Gall Cynghorau Gwirfoddol Cymunedol lleol eich cyfeirio at weithgareddau yn eich ardal, mae rhagor o wybodaeth yma

Rhagor o wybodaeth 

Rhagor o wybodaeth am grwpiau gwasanaethau yn eich cymuned:- 

  • Merthyr Tudful : GGMT – Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, Canolfan Gweithredu Gwirfoddol, 89-90 Stryd Fawr, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UH Ffôn: 01685 353900 E-bost: info@vamt.net Gwefan: https://vamt.net/cy/    

Dolenni Defnyddiol Ychwanegol 

https://www.nhs.uk/live-well/exercise/ 

https://www.nhs.uk/conditions/nhs-fitness-studio/ 

 

Dilynwch ni: