Mae’n hollbwysig eich bod yn cadw draw o safleoedd os oes symptomau gyda chi o COVID-19. Os oes symptomau COVID gyda chi, mae’n bwysig iawn eich bod yn dilyn y canllawiau ac yn cael prawf cyn gynted â phosib. Dylech chi aros gartref wrth aros am ganlyniadau’r profion (dim ond i gael prawf y dylech chi adael y tŷ). Os oes apwyntiad gyda chi yn yr ysbyty cyn i chi gael eich canlyniadau, neu ar ôl i chi gael canlyniad positif, cysylltwch â’r adran berthnasol lle mae apwyntiad gyda chi i roi gwybod iddyn nhw bod symptomau COVID gyda chi.