Neidio i'r prif gynnwy

Rydw i'n poeni am y risg o ddal COVID os bydd rhaid i fi fynd i mewn i'r ysbyty/meddygfa ar gyfer fy nhriniaeth/fy ymgynghoriad? Ydy hi'n ddiogel?

Trwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod ein safleoedd mor ddiogel â phosib i’n staff a’n cleifion.

Rydyn ni wedi rhoi’r holl fesurau cadw pellter cymdeithasol a rheoli heintiau angenrheidiol ar waith, felly os byddwch chi’n cael eich gwahodd am apwyntiad wrth i ni ddechrau ailagor ein safleoedd ac ailgychwyn ein gwasanaethau, does dim rhaid i chi boeni. Gwnewch bob ymdrech i fynd i’r apwyntiad, ac os bydd unrhyw gwestiynau gyda chi, cysylltwch â ni ar bob cyfrif.

Dilynwch ni: