Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae rhai gwasanaethau wedi ailgychwyn, er bod rhai gwasanaethau heb wneud hynny?

Mae’r heriau a wynebwn wrth ailgychwyn gwasanaethau yn rhai cymhleth, ac mae sawl ffactor a all effeithio ar ba mor gyflym y gallwn wneud hynny. Ymhlith yr heriau hyn y mae argaeledd staff (y mae llawer ohonyn nhw wedi mynd y tu hwnt i alwadau dyletswydd yn ystod y pandemig i ddarparu gwasanaethau brys), yr amgylchedd mae’r gwaith yn cael ei wneud ynddo, mesurau diogelwch ychwanegol mae’n rhaid i ni eu rhoi ar waith, diffyg lle oherwydd y mesurau COVID, a’r angen i sicrhau bod offer a pheiriannau wedi eu diheintio’n drylwyr i gadw cleifion a staff yn ddiogel.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gweithio’n galed i orchfygu’r heriau hyn ac i ystyried sut gallwn ni ddarparu gofal mewn ffyrdd mwy arloesol a chyfeillgar i gleifion.

Dilynwch ni: