Fel yn achos Byrddau Iechyd eraill, rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd i gyfyngu ar ymweliadau er mwyn blaenoriaethu diogelwch cleifion a staff yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod hyn wedi bod yn anodd iawn i gleifion a’u teuluoedd. Rydyn ni’n adolygu’r cyfyngiadau hyn yn rheolaidd. Gallwch chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau diweddaraf yma.