Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd fy nhriniaeth/fy llawdriniaeth ei chanslo yn ystod y cyfnod clo, a dydw i ddim wedi clywed eto pryd bydd fy apwyntiad yn cael ei ad-drefnu. Beth ddylwn i ei wneud?

Yn anffodus, fel gyda’r Byrddau Iechyd eraill, roedd rhaid i ni gymryd y penderfyniad anodd i ohirio pob math o driniaeth heblaw am driniaeth frys, wrth i ni ymateb i bandemig COVID-19. Mae’n flin gyda ni eich bod wedi gorfod aros yn hirach am eich triniaeth, ond mae’n hanfodol ein bod bob tro yn rhoi diogelwch ein cleifion a’n staff yn gyntaf.

 Os ydych chi’n aros am driniaeth neu brofion yn ystod y cyfnod clo, peidiwch â phoeni, dydyn ni ddim wedi anghofio amdanoch chi.

Rydyn ni’n gweithio’n galed iawn i ailgychwyn ein gwasanaethau GIG eto ledled Cwm Taf Morgannwg, nawr bod cyfraddau COVID-19 yn gostwng eto yn ein hardal, ond fydd hynny ddim yn digwydd dros nos gan ein bod yn ystyried sut gallwn ni ddarparu gwasanaethau nad ydyn nhw’n frys mor ddiogel â phosib.

Dylai ein timau fod mewn cysylltiad â chi am eich triniaeth yn fuan, ond gofynnwn i chi fod yn amyneddgar ar yr adeg honn ac rydyn ni’n ddiolchgar am eich cymorth.

Rydyn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am statws ein gwasanaethau ar ein gwefan. Gallwch wirio yma pa wasanaethau sydd wedi ailgychwyn yn barod.

Dilynwch ni: