Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin i oedolion sydd eisoes yn cael cymorth gan y gwasanaethau iechyd meddwl

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Timau Triniaeth yn y Cartref a gwasanaethau cleifion mewnol, wedi parhau i ddarparu cymorth yn ystod pandemig COVID-19. Fel arfer, bydd angen atgyfeiriad arnoch chi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol er mwyn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Efallai bod y ffordd y mae rhai o'r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu wedi newid yn ystod y pandemig, er mwyn atal y firws rhag lledaenu ac i’ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.

Cysylltiad

Os ydych chi eisoes yn cael gofal gan wasanaethau iechyd meddwl eich Bwrdd Iechyd, gallwch ddisgwyl i’r cyswllt â’ch cydlynydd gofal neu weithiwr proffesiynol arall yn y tîm sy'n gofalu amdanoch barhau.

Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, byddwn ni’n rhoi dewis i chi o blith y mathau gwahanol o gyswllt, gan gynnwys ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu dros fideo, pan fyddan nhw ar gael. Dylech chi fod wedi diweddaru eich Cynlluniau Gofal a Thriniaeth gyda'r holl fanylion cymorth perthnasol ynghyd â'ch cynlluniau personol ar gyfer argyfwng.

Gwasanaethau cleifion mewnol

Mae ein wardiau cleifion mewnol acíwt yn gweithredu fel yr arfer. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau a newidiadau wedi cael eu cyflwyno ac mae’n bosib y bydd y rhain yn amrywio yn ôl y lleoliad. Gallwch chi weld manylion y newidiadau hyn wrth glicio ar y dolenni isod.

Mynediad at ymyriadau therapiwtig

Mae therapïau a gafodd eu hoedi ar ddechrau’r pandemig wedi ailddechrau, trwy dechnoleg fideo, ac wyneb yn wyneb lle bo hynny'n briodol yn glinigol.

Teuluoedd a gofalwyr

Mae'r cymorth mae teulu a ffrindiau yn ei ddarparu i rywun gyda chyflwr iechyd meddwl mor bwysig ac mae’n bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19. Mae rhoi cymorth i rywun gyda chyflwr iechyd meddwl yn gallu bod yn anodd i’r teulu a ffrindiau, ond mae'n bwysig cofio bod cymorth ar gael i chi. Bydd gofalu am eich lles eich hun yn golygu eich bod wedi paratoi'n well i helpu rhywun arall i wella. Mae'n bwysig eich bod chi’n gallu cael yr wybodaeth a'r cymorth diweddaraf allai eich helpu i barhau i roi gofal/cymorth ar yr adeg hon.

Gall sefydliadau gofalwyr ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol. Byddan nhw’n gallu:

  • Trefnu bod rhywun yn siarad â chi.
  • Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles).
  • Eich helpu i gael asesiad gofalwr.
  • Eich helpu chi i ddatblygu cynllun sy'n hybu eich anghenion.
  • Eich cysylltu chi â grwpiau gofalwyr lleol fel y gallwch chi gysylltu â gofalwyr eraill.

Mae'n bwysig cofio eich bod chi'n gwneud eich gorau glas yn ystod y cyfnod anodd hwn, felly byddwch yn garedig i chi eich hun.

Dylai eich cynlluniau gofal a thriniaeth fanylu ar y trefniadau cyswllt oedd wedi cael eu cytuno â'ch cydlynydd gofal. Dyma ddull sy’n gweithio ddwy ffordd lle rydych chi'n gwybod sut a phryd i gysylltu â nhw, ac rydych chi'n cytuno ar ba mor aml y dylen nhw gysylltu â chi.

Ydych, ar yr amod bod defnyddiwr y gwasanaeth/y claf yn cytuno â hynny a’i bod hi’n ddiogel gwneud hynny, gan ystyried mesurau atal haint COVID-19.

Efallai y bydd technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio er mwyn i chi fynychu adolygiadau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriadau fideo trwy'r platfform Attend Anywhere. Gwasanaeth newydd sbon yw hwn sydd ar gael ym mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru erbyn hyn.

Gall sefydliadau gofalwyr ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth perthnasol. Byddan nhw’n gallu:

  • Trefnu bod rhywun yn siarad â chi.
  • Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau lles).
  • Eich helpu i gael asesiad gofalwr.
  • Eich helpu chi i ddatblygu cynllun sy'n hybu eich anghenion.
  • Eich cysylltu chi â grwpiau gofalwyr lleol fel y gallwch chi gysylltu â gofalwyr eraill.

Mae'n bwysig cofio eich bod chi'n gwneud eich gorau glas yn ystod y cyfnod anodd hwn, felly byddwch yn garedig i chi eich hun.

Ydych. Mae'n bosib o hyd gysylltu â thimau gofal iechyd yn uniongyrchol ac mae'n bwysig eich bod chi'n gwneud hynny os oes unrhyw bryderon gyda chi Fodd bynnag, dydy gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddim yn gallu rhannu gwybodaeth gyfrinachol am eich perthynas â chi fel rheol, oni bai bod eich perthynas yn cytuno â hynny Gallwch chi ddarllen mwy am hyn drwy ddarllen ‘Cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth: ar gyfer gofalwyr, ffrindiau a’r teulu’ drwy glicio yma.

Gallwch chi a'ch perthynas gymryd camau fel y gall gweithwyr proffesiynol rannu gwybodaeth â chi. Ewch i’r adran 'Pa drefniadau galla i eu gwneud ar gyfer y dyfodol?' drwy glicio ar y ddolen uchod.

Bydd eich perthynas yn gallu llofnodi ffurflen gydsyniad i'ch galluogi i gael gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol.

Byddwch, mae'r cymorth rydych chi'n ei ddarparu mor bwysig o ran lles yr unigolyn hwnnw a’i allu i wella. Mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod pandemig COVID-19.

Dilynwch ni: