Gweler isod e-bost ar ran Lili Dunn, Rheolwr Ymgyrchoedd Lleol NSPCC Cymru ar gyfer Cymru
Mae'r NSPCC yn credu bod gan bawb ran i'w chwarae wrth helpu i gadw plant yn ddiogel, o weithwyr siopau a staff caffis, i lyfrgellwyr, gofalwyr pyllau nofio a theithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dyna pam mae ein hymgyrch Bydd yn Glust, Bydd yn Llais yn cynnal Wythnos Ymwybyddiaeth ac yn annog ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol ledled Cwm Taf Morgannwg i gymryd rhan mewn gweithdai am ddim o 7-11 Gorffennaf, gan gynnig cyngor ar beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am ddiogelwch neu les plentyn a phwy i gysylltu ag ef i gael cymorth.
Mae’r gweithdai yn cael eu cynnig yn wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac maen nhw’n rhedeg trwy gyfres o senarios bywyd go iawn, gan roi cyngor ymarferol ar sut i ymdrin â sefyllfaoedd heriol lle gallai plentyn fod mewn perygl.
Mae pob sesiwn fel arfer yn para rhwng 45 munud ac awr a gellir ei chyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Rydym yn benderfynol o gyrraedd cymaint o bobl a chymaint o gymunedau â phosibl er mwyn i ni allu ysbrydoli mudiad o newid sy'n sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn byw bywydau hapusach a mwy diogel.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych am gynnal un o'n gweithdai Bydd yn Glust, Bydd yn Llais felly cysylltwch â ni a gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
I drefnu neu fynychu gweithdy, anfonwch e-bost at walescampaigns@nspcc.org.uk - mae angen o leiaf deg o bobl ym mhob sesiwn wyneb yn wyneb.
Fodd bynnag, gall unrhyw un gofrestru ar gyfer ein hyfforddiant ar-lein 10 munud am ddim drwy ymweld â www.nspcc.org.uk/speakup.