Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Therapyddion Iaith a Lleferydd CTM i gynnal arddangosfa ffotograffiaeth

Eleni, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. I nodi'r pen-blwydd, comisiynodd RCSLT ddau ffotograffydd i  ddal eiliadau pwerus - mawr a bach - sy'n diffinio bywydau beunyddiol  therapyddion iaith a lleferydd ledled y DU.  

Bydd tîm Therapi Iaith a lleferydd CTM yn cynnal arddangosfa ffotograffiaeth i arddangos y ffotograffau ddydd Mercher 3 Medi yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, atriwm Mynedfa 5 o 9am — 5pm.  

Ar y diwrnod bydd staff o dîm Therapi Iaith a Lleferydd CTM wrth law i siarad â staff a chleifion am rôl therapyddion Iaith a Lleferydd, sut maen nhw'n cefnogi cleifion ar draws CTM, ac i annog pobl i ystyried gyrfa yn y proffesiwn hynod ddiddorol hwn.  

Dywedodd Vanessa Hayward, Pennaeth Therapi Iaith a Lleferydd: “Mae'r ffotograff yn yr arddangosfa yn adlewyrchu tosturi, cadernid, a dyfalbarhad y rhai sy'n cefnogi pobl ag anghenion cyfathrebu a llyncu yn ddiflino. Bydd hwn yn gyfle gwych i ni daflu goleuni ar y proffesiwn iaith a lleferydd, a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i'n cymunedau ar draws staff CTM. Byddwn yn gallu tynnu sylw at yr holl waith anhygoel y mae ein timau yn ei wneud i drawsnewid bywydau pobl sydd ag anghenion iaith, lleferydd, llyncu a chyfathrebu.” 

Mae'r arddangosfa ffotograffiaeth wedi cael cefnogaeth staff a defnyddwyr gwasanaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gymunedol Hertfordshire, CEM Brixton, Prosiect Include, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Kingston, Ymddiriedolaeth GIG Lewisham a Greenwich . 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rôl Therapyddion Iaith a Lleferydd yma