Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Clinig y Frest CTM yn cynnal grŵp cymorth canser yr ysgyfaint misol yn Nhre-Dowlai

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal ar ddydd Iau olaf pob mis, yng Nghlwb Bowls a Chymdeithasol Guest Memorial, Charlotte Gardens, Dowlais, Merthyr Tudful, CF48 3LJ.

Bydd y sesiwn nesaf yn cael ei chynnal ar Ddydd Iau 30 Hydref, rhwng 10:30yb – 12:30yp.

Bydd y sesiynau hyn yn cynnig te/coffi, a chyfle i bobl gwrdd ac i sgwrsio gydag eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Bydd tîm canser yr ysgyfaint CTM yno i roi cymorth ac ateb unrhyw gwestiynau.

Sesiynau galw heibio yw’r rhain – does dim angen archebu lle ymlaen llaw.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Bann, Uwch Nyrs Glinigol Canser yr Ysgyfaint Macmillan:

Tel: 01685726861  

E-bost: alison.bann@wales.nhs.uk