Neidio i'r prif gynnwy

Llais Cwm Taf Morgannwg: galwad am adborth gan Breswylwyr Hirwaun

Drwy gydol mis Mehefin, bydd tîm Llais Cwm Taf Morgannwg yn ardal Hirwaun i glywed barn pobl am wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddant yn defnyddio eich adborth i gynrychioli eich barn a’ch profiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

Bydd cynrychiolwyr Llais yn ymweld â:

  • YMCA Hirwaun ddydd Mawrth 3ydd Mehefin rhwng 9.30yb – 12yp
  • Llyfrgell Hirwaun ddydd Mawrth 10fed Mehefin rhwng 2.00yp – 4yp
  • YMCA Hirwaun ddydd Gwener 13eg Mehefin rhwng 11.15yb – 12.15yp
  • Neuadd Bentref Hirwaun ddydd Mercher 18fed Mehefin rhwng 1.30yp - 3.30yp

Os na allwch ymuno â ni, rhannwch eich adborth trwy ein harolygon dienw ar-lein:

Fel arall cysylltwch â’r tîm:

Poster Llais Lleol Hirwaun