Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cymorth Anadlol yn cael ei gynnal gan CTM ym Merthyr Tudful

Bydd Kirsty Miles o CTM, (arbenigwr nyrsys clinigol anadlol), yn cynnal grŵp cymorth anadlol am ddim yng Nghlwb Llafur Merthyr Tudful ddydd Iau 7 Awst o 2-4pm.

Nod y sesiwn yw cefnogi unrhyw un sy'n byw yn CTM sydd â chyflwr anadlol, ac aelodau o'r teulu sy'n byw gyda phobl â chyflwr anadlol, (e.e. unrhyw un sy'n byw gyda COPD, apnoea cwsg, asthma, Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint).

Bydd y sesiwn yn cynnwys sgyrsiau gan weithwyr iechyd proffesiynol clinigol ac anghlinigol, a chyngor ynghylch mynediad at wasanaethau, diwrnodau hwyl, a gweithgareddau i bobl â chyflyrau anadlol.

Nid oes angen archebu.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Kirsty Miles: Kirsty.Miles@wales.nhs.uk