Bydd Kirsty Miles o CTM, (nyrs glinigol arbenigol anadlol), yn cynnal grŵp cymorth anadlol am ddim yng Nghlwb Llafur Merthyr Tudful ddydd Iau 18 Medi Gorffennaf rhwng 2-4pm.
Mae'r sesiwn yn cael ei chynnal i gefnogi unrhyw un sy'n byw mewn CTM sydd â chyflwr anadlol, ac aelodau o'r teulu sy'n byw gyda phobl sydd â chyflwr anadlol, (e.e. unrhyw un sy'n byw gyda COPD, apnoea Cwsg, Asthma, Clefyd Interstitaidd yr Ysgyfaint).
Bydd y sesiwn yn cynnwys sgyrsiau gan weithwyr iechyd proffesiynol clinigol ac anghlinigol, a chyngor yn ymwneud â mynediad at wasanaethau, diwrnodau hwyl, a gweithgareddau i bobl â chyflyrau anadlol.
Does dim angen bwcio.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Kirsty Miles: Kirsty.Miles@wales.nhs.uk