Bydd tîm Clinig y Frest CTM yn cynnal grŵp cymorth misol newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint yn Nowlais.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar ddydd Mawrth olaf pob mis, yng Nghlwb Cymdeithasol Bowlio Guest Memorial, Charlotte Gardens, Dowlais, Merthyr Tudful. CF483LJ.
Bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mawrth 30 Medi, 10:30am — 12:30pm.
Bydd y sesiynau'n cynnig te/coffi, a chyfle i bobl gwrdd a chael sgwrs gyda phobl eraill sy'n mynd drwy'r un peth. Bydd tîm canser yr ysgyfaint CTM yno i gefnogi gydag unrhyw gwestiynau.
Bydd y rhain yn sesiynau galw heibio a does dim angen bwcio.
Dywedodd Alison Bann, Arbenigwr Nyrs Clinigol Canser yr Ysgyfaint Macmillan “Rydym yn dechrau'r sesiynau hyn i greu lle hamddenol i gefnogi pobl â chanser yr ysgyfaint.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Bann, Arbenigwr Nyrs Glinigol Canser yr Ysgyfaint Macmillan:
Ffôn: 01685726861
E-bost: alison.bann@wales.nhs.uk