Er mwyn ymgorffori VBHC yn ymddygiadau a diwylliant BIP CTM, bydd Tîm VBHC yn:
- Cymdeithasu ac Addysgu: bydd angen cyfathrebu egwyddorion VBHC yn glir ac yn dda er mwyn iddo ddod yn ffordd o feddwl am iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel iechyd yr unigolyn a’r boblogaeth ac i’r hyn a ddysgir gael ei ledaenu ar draws ein holl bartneriaid yn y sector cyhoeddus, academia, 3ydd sector, diwydiant, cleifion a’r cyhoedd
- Casglu, Dadansoddi a Defnyddio Data Mawr: bydd disgrifio gwerth yn gofyn i ddata gael ei gasglu, ei gysylltu a'i ddadansoddi'n ddiogel. Bydd angen iddo fod ar gael i'r cleifion a'r timau clinigol sy'n darparu gofal a bydd angen ei gydgrynhoi i’w ddisgrifio ar lefel y boblogaeth. Bydd angen i'r data hefyd fod â chwmpas eang er mwyn i ni allu cwmpasu'n fras a bydd yn golygu bod angen perthynas waith newydd a threfniant rhannu data gyda'n dinasyddion a'n partneriaid yn y sector cyhoeddus. Mae angen i'r data sbarduno arbedion technegol a dyraniadol a bydd angen cydweithio a thechnoleg arloesol arnom i wneud hyn yn iawn
- Mesur Canlyniadau Ystyrlon mewn Ffordd Ystyrlon: bydd angen i ni fesur canlyniadau'n gyson ac yn fwy cyfannol. Yn hyn o beth, bydd BIP CTM yn mabwysiadu Setiau Safonol o ICHOMs ac yn datblygu cyfres o ddulliau ystadegol a modelau economaidd iechyd i gael casgliadau priodol o'r data drwy gydweithio â phartneriaid academaidd. Byddwn yn awtomeiddio'r broses o gasglu data ac yn defnyddio technolegau cefnogol i wneud hyn. Bydd y setiau data hyn yn dod yn unigryw i raddau helaeth o ran eu cyfoeth a chânt eu defnyddio i gefnogi pob un o bedair colofn VBHC
- Cwmpasu’n fras: byddwn yn mabwysiadu'r dull hwn ar draws y llwybr gofal i’r graddau llawnaf gan gynnwys cydnabod rôl bwysig gofalwyr, teuluoedd a'r gymuned sy'n darparu gofal sy'n cefnogi canlyniadau da i bobl. Byddwn yn mabwysiadu dull systemau o'r dechrau i'r diwedd, gan ymestyn i gydweithio â phartneriaid yn y sector cyhoeddus (e.e. awdurdod lleol, cyfiawnder troseddol, addysg, Llywodraeth Cymru)
- Blaenoriaethu Byddwn yn gynhwysol ac yn deg yn ein dull gweithredu ond bydd yn rhaid i ni flaenoriaethu pa wasanaethau y byddwn yn defnyddio'r dull gweithredu gyda nhw yn y lle cyntaf yn erbyn cyfres o feini prawf tryloyw. Ni fydd hyn yn atal gwasanaethau eraill rhag cael mynediad at ddulliau mwy traddodiadol a chymorth i wella ansawdd