Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu ar y platfform 'Promptly Health'. Gallwch gysylltu â’r adran yn:

  • Yr Hyb, Uned 2, Gwaun Elai, Ynysmaerdy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, CF72 8XL
  • E-bost: ctm.vbhc@wales.nhs.uk
Pam y gallwn brosesu eich gwybodaeth?

Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu eich gwybodaeth bersonol o dan Erthygl 6 o’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) gan fod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni ein swyddogaethau swyddogol fel corff GIG. Bydd adegau pan fyddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithlon eraill fel pan fydd angen y prosesu er mwyn i ni gydymffurfio â’r gyfraith.
Rydym yn gyfreithiol yn gallu prosesu gwybodaeth categori arbennig o dan Erthygl 9 o’r GDPR gan fod y prosesu yn angenrheidiol at ddibenion rheoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol neu’n angenrheidiol at ddibenion cyflawni rhwymedigaethau ym maes cyflogaeth a gyfraith nawdd cymdeithasol a diogelu cymdeithasol.

At ba ddiben yr ydym yn ei brosesu?

Mae’r wybodaeth sy’n cael ei phrosesu ar y platfform hwn yn ymwneud â chasglu a defnyddio Asesiadau Iechyd Digidol neu ba Fesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (PROMS) sy’n un math o asesiad iechyd digidol.
Bydd yr Asesiad Iechyd Digidol yn gofyn cwestiynau i chi am eich bywyd bob dydd, symptomau presennol a sut mae'n effeithio ar ansawdd eich bywyd. Bydd y wybodaeth sy'n cael ei gasglu yn yr asesiad hwn yn cael ei hadolygu gan eich clinigwr arbenigol er mwyn deall beth sy'n effeithio fwyaf arnoch a'i alluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eich triniaeth.
Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i helpu eich clinigwr i ddeall yn fwy manwl sut rydych chi'n teimlo, i helpu i gynllunio'ch triniaeth ac i weld sut rydych chi'n ymateb i'r driniaeth honno.
Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth ddienw (lle na ellir eich adnabod) yn cael ei defnyddio yn y dyfodol i helpu’r Bwrdd Iechyd i wella ansawdd y gwasanaethau lleol rydym yn eu darparu i chi ac i gefnogi ymchwil fel prifysgol sy’n ymchwilio i effeithiolrwydd triniaeth.
Efallai y gofynnir i chi gwblhau Asesiad Iechyd Digidol ar adegau amrywiol. Mae hyn yn galluogi eich tîm gofal i gael darlun manwl a chyfredol o'ch ymateb i driniaeth.

Pa mor hir byddwn yn ei storio?

Ni fyddwn yn storio gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sydd ei angen. Bydd gwybodaeth bersonol yn ddienw pan na fydd ei hangen mwyach mewn fformat adnabyddadwy.
Bydd eich gwybodaeth PROMs yn aros ar y llwyfan Promptly Health am gyhyd ag y bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfarwyddo Promptly Health i'w chadw. Lle gwneir penderfyniad clinigol o’ch gwybodaeth Asesiad Iechyd Digidol, caiff yr asesiad ei gopïo i’ch cofnod claf, a gaiff ei storio yn unol â chanllawiau cadw’r GIG.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

Efallai y bydd adegau pan fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill. Bydd hyn ond yn cael ei wneud lle mae sail gyfreithlon i wneud hynny ac yn unol â’r dibenion a restrir uchod.
Lle bo angen, gallwn rannu eich gwybodaeth â:

  • Adrannau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd;
  • Gyda sefydliadau GIG eraill neu sefydliadau partner; a
  • Gyda'r heddlu, cyrff cyhoeddus, cyrff rheoleiddio, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sut gallai gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data?

Mae manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data wedi’u hamlinellu isod:
Swyddog Diogelu Data
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Ty Ynysmeurig, Parc Naviagtion, Abercynon, CF45 4SN
Ffôn: 01443 744800 a gofynnwch am y Swyddog Diogelu Data
E-bost: informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk

Beth yw eich hawliau mewn perthynas â'ch data personol?

O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau y mae angen i ni eich gwneud yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae'r hawliau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar ein rheswm dros brosesu eich gwybodaeth.

  • Eich hawl i fynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. Mae'r hawl hon bob amser yn berthnasol. Mae rhai eithriadau, sy'n golygu efallai na fyddwch bob amser yn derbyn yr holl wybodaeth rydym yn ei phrosesu.
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych chi hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n anghyflawn. Mae'r hawl hon bob amser yn berthnasol.
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau. 
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu dim ond lle caiff ei brosesu fel rhan o’n tasgau cyhoeddus, neu os yw er ein budd cyfreithlon.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae hyn ond yn berthnasol i wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni. Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth a roesoch i ni o un sefydliad i’r llall, neu ei rhoi i chi. Mae'r hawl ond yn berthnasol os ydym yn prosesu gwybodaeth yn seiliedig ar eich caniatâd neu o dan gontract, neu mewn sgyrsiau am ymrwymo i gontract a bod y prosesu yn awtomataidd.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Mae gennym fis i ymateb i chi.
Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio os ydych yn anhapus ynghylch sut y caiff eich data ei brosesu.
Yn y DU, yr awdurdod goruchwyliol yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a cheir ei manylion cyswllt isod:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - Cymru
Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH
Ffôn: 0330 414 6421

Ar-lein/sgwrs-byw: Offeryn Cwynion Diogelu Data a Gwybodaeth Bersonol
Llinell gymorth: 0303 123 1113
Mae canllawiau pellach ar sut i arfer eich hawliau ar gael ar wefan yr ICO.