I wireddu'r uchelgais o wella canlyniadau iechyd sy'n canolbwyntio ar unigolion ac i ddefnyddio ein hadnoddau’n fwy effeithiol, mae angen i ni holi pobl ynglŷn â’u profiadau iechyd a'u canlyniadau yn sgil ein triniaethau a'n gofal. Rydym yn gwneud hyn trwy greu a defnyddio system â chymorth data, sy'n ceisio casglu a darparu gwybodaeth amserol i ddinasyddion, i dimau clinigol ac i'n sefydliad, er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd sy'n arwain at y canlyniadau hynny. Sicrhau canlyniadau sydd bwysicaf i gleifion yw gwir werth iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae dull VBHC yn golygu gofyn i gleifion sut maent yn teimlo a sut mae eu cyflyrau'n effeithio ar eu bywydau cyn iddynt ddod i'r ysbyty am apwyntiad neu driniaeth ac wedyn. Mae hyn yn ein helpu ni i fesur a monitro'r newidiadau sy'n digwydd, a p’un a ydy iechyd cleifion a'r effaith ar eu bywyd wedi gwella ai peidio oherwydd y gofal gawson nhw. Mae hyn yn ein helpu ni i nodi'r gofal a'r driniaeth sy'n effeithio’n gadarnhaol ar gleifion ac ar eu cyflwr iechyd. Gall hefyd nodi lle mae gofal gwerth isel, nad yw'n cael effaith gadarnhaol ar y claf neu'r cyflwr, yn cael ei brofi.
PROM (Mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion) Diben PROM yw casglu gwybodaeth o safbwynt y cleifion eu hunain drwy holiadur. Trwy’r dull hwn, bydd cleifion yn cael cyfle i asesu sut maen nhw'n teimlo cyn ac ar ôl triniaeth. Yna, bydd hyn yn rhoi statws iechyd cleifion, gan y cleifion eu hunain, i'r staff clinigol yn uniongyrchol. Mae'r broses hon yn gallu helpu cleifion a’r staff clinigol i fesur effaith triniaeth wrth i gleifion gael triniaeth am gyflwr iechyd. Mae'n galluogi’r cleifion a'r clinigwyr i wneud penderfyniadau gwell gyda'i gilydd ac mae'n hwyluso pwynt cyswllt mwy personol.
PREM (Mesur profiadau a adroddwyd gan gleifion) Mae'n debyg iawn i PROM gan mai ei bwrpas yw casglu gwybodaeth gan gleifion trwy holiadur. Fodd bynnag, yn lle asesu sut mae claf yn teimlo ar adeg benodol yn ystod ei ofal iechyd, mae PREM yn mesur profiad claf wrth iddo gael ei ofal. Bydd y PREM yn helpu i gasglu gwybodaeth ynglŷn â phrofiad cleifion yn y system gofal iechyd a p’un a ydy anghenion y cleifion yn cael eu diwallu ai peidio. Yn ogystal â hynny, mae’n dangos meysydd o ragoriaeth a meysydd o bryder er mwyn i ni allu ymchwilio ymhellach iddynt. Mae'n rhoi cyfle i feincnodi a chymharu profiad cleifion ar draws BIP CTM.
WREM (Mesur Profiad Adroddwyd am y Gweithlu). Holiadur yw hwn sydd wedi ei ddylunio'n arbennig ar gyfer y staff. Ei nod yw casglu profiadau staff BIP CTM wrth ymgymryd â thasg/proses benodol. Bydd yn helpu i lywio gwelliannau lleol, yn ogystal â mesur profiadau’r staff a gweithredu arnyn nhw. Mae'n rhoi cipolwg i ni o sut mae mesur profiad ein staff yn ein helpu ni i gyflwyno PROMS a PREMS yn BIP CTM, yn ogystal â nodi meysydd i’w datblygu. Mae ein holiaduron WREM wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â'n gwerthoedd craidd fel Bwrdd Iechyd, sef ein bod ni’n gwrando, yn dysgu ac yn gwella.