Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion
Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion
Ymunodd Greg Dix â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019 o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Athrofaol Plymouth, lle bu'n Brif Nyrs ers Chwefror 2013. Bu’n ymgymryd â rolau Prif Nyrs a Phrif Swyddog Gweithredu yno am gyfnod hefyd.
Mae gan Greg, sydd wedi'i addysgu hyd at lefel Meistr ac sydd â chymhwyster nyrsio, addysgu a chyfraith feddygol academaidd, gyfoeth o brofiad clinigol, rheolaethol ac addysgol yn y DU a Seland Newydd. Mae’n athro gwadd ym Mhrifysgol De Cymru a Phrifysgol Plymouth.
Dechreuodd Greg ei hyfforddiant nyrsio yng Nghaerdydd yn 1988 a, chyn symud i Seland Newydd, bu’n gweithio mewn sawl ysbyty yng Nghaerdydd. Ei rôl glinigol ddiwethaf oedd uwch brif nyrs ar uned drawma acíwt â 38 o welyau yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Mae gan Greg brofiad helaeth o fod yn aelod o fwrdd ac ymhlith yr hyn sy’n ei ysgogi mae darparu'r safonau gofal uchaf; ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb o ran mynediad a gwella diogelwch, profiad a chanlyniadau cleifion, gofalwyr a'u teuluoedd yn barhaus. Mae ganddo ddiddordeb arbenigol hefyd yn yr agweddau cyfreithiol ar ymarfer nyrsio a bydwreigiaeth.