Neidio i'r prif gynnwy
Dr Sally Bolt

Cadeirydd y Grŵp Cynghori Clinigol (sy'n cynnwys rôl y Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol)

Amdanaf i

Cadeirydd y Grŵp Cynghori Clinigol (sy'n cynnwys rôl y Fforwm Gweithwyr Iechyd Proffesiynol)

Ar ôl dechrau fel Radiolegydd Ymgynghorol yn BIP AB yn 2010, symudodd Sally i CTM yn 2017. Yn wreiddiol o ardal Castell-nedd, symudodd Sally yn ôl i Gymru ar ôl astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bryste.

Daeth Sally yn Gyfarwyddwr Clinigol Radioleg ym mis Hydref 2019 ac yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth Clinigol yn 2020. Yn dilyn ad-drefnu’r model gweithredu, mae Sally wedi dod yn Gyfarwyddwr Meddygol y Grŵp Diagnosteg, Therapïau a Gofal Fferyllol. Penodwyd Sally yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Clinigol CTM ym mis Medi 2022 am gyfnod o ddwy flynedd.