Neidio i'r prif gynnwy

Gwella gofal i gleifion

Bydd yr ailddatblygiad yn trawsnewid ystod eang o wasanaethau gofal iechyd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.

Mae'r adrannau sy'n elwa o'r buddsoddiad yn cynnwys:

  • Prif theatrau llawdriniaeth
  • Uned gofal critigol
  • Gwasanaethau radioleg a delweddu
  • Gwasanaethau endosgopi
  • Yr Adran Cleifion Allanol
  • Gwasanaethau Patholeg a labordy
  • Gwasanaethau Llawfeddygaeth ar y Genau a’r Wyneb
  • Niwroffisioleg
  • Gwasanaethau diabetes a chardiopwlmonaidd
  • Therapïau a gwasanaethau adsefydlu

Bydd cyfleusterau modern yn caniatáu i dimau gofal iechyd ddarparu gofal mwy effeithlon, integredig ac un sy’n canolbwyntio ar y claf.

Mae'r ailddatblygiad hefyd yn canolbwyntio ar wella hygyrchedd a phrofiad cleifion drwy greu amgylcheddau modern a chroesawgar i gleifion ac ymwelwyr.  Elfen allweddol yw rhwyddineb mynediad a gwella canfod ffordd ar gyfer gwasanaethau “gofal dydd” gyda llawer wedi'u lleoli mewn lleoliadau llawr gwaelod hygyrch yn agos at fynedfeydd allweddol ochr yn ochr â mannau parcio a gollwng newydd eu creu a'u gwella.

Dilynwch ni: