Ysbyty Cwm Cynon
Heol Newydd
Aberpennar
CF45 4BZ (defnyddiwch CF45 4DG os ydych chi'n defnyddio 'sat-nav') |
|
Bydd yr Uned Mân Anafiadau yn YCC yn agor ddydd Llun, 7 Tachwedd, 2022.
Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm (apwyntiad olaf am 4.30pm)
Gellir trin y canlynol yn yr Uned:
- Toriadau a mân losgiadau
- Ysigiadau a straen
- Anafiadau i'r coesau a’r breichiau
- Dadleoli bysedd a bysedd traed
- Anafiadau i'r pen (dan 65 oed) ac anafiadau i'r wyneb heb golli ymwybyddiaeth ac nid yw'r claf yn cymryd meddyginiaeth gwrthgeulo (teneuo gwaed).
- Anafiadau i'ch gwddf/cefn, lle gallwch symud heb unrhyw binnau bach yn eich breichiau neu'ch coesau
- Corffynnau estron yn y llygaid, y clustiau a'r trwyn
- Anafiadau sydd heb dreiddio i'r llygaid a'r glust
- Anafiadau Wal y Frest
- Brathiadau (pryfetach, anifail)
- Pigiadau pryfed
NI ALL y tîm DRIN:
- Plant dan 12 mis
- Mân salwch
- Annwyd, peswch, dolur gwddf, cur pen, brech, tymheredd unrhyw fân salwch
- Heintiau wrinol
- Problemau deintyddol
- Anafiadau i'r abdomen/stumog
- Poen yn y frest
- Problemau anadlu
- Strôc
- Cwynion croen gan gynnwys cornwydydd a brech
- Gwrthdrawiadau traffig ffyrdd
- Anafiadau i'r pen dros 65 oed (Canllawiau NICE)
- Unrhyw anaf gyda mecanwaith fawr - disgyn o uchder o fwy nag 1 metr neu 5 gris/gris (Canllawiau NICE)
- Anaf treiddiol i'r pen, gwddf, thoracs, abdomen, pelfis
Nid ydym yn darparu gwasanaeth newid rhwymynnau na thynnu pwythau. Am hyn cysylltwch â Gofal Sylfaenol.
Rhif ffôn: 01685 721721
Cofiwch fod croeso i chi siarad Cymraeg gyda ni.