O heddiw ymlaen, bydd cleifion sy'n cael cymorth gan y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) newydd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael mynediad personol at blatfform presgripsiynu cymdeithasol digidol sydd wedi ei deilwra iddyn nhw.
Bydd partneriaeth newydd gydag Elemental Software, sef cwmni arobryn ym maes technoleg presgripsiynu cymdeithasol, yn helpu cleifion gyda chyflyrau iechyd cronig i ymwneud yn fwy â rhaglenni, gwasanaethau ac ymyriadau gofal iechyd yn y gymuned.
Erbyn hyn, mae offer digidol yn cael eu defnyddio'n helaeth i gyd-fynd â gofal iechyd wyneb yn wyneb, felly bydd mabwysiadu platfform digidol Elemental yn galluogi WISE i roi sawl cyfle i gleifion wella eu canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol. Bydd hyn hefyd yn hyrwyddo lles ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws poblogaeth ranbarthol y Bwrdd Iechyd.
Mae WISE yn rhan o raglen gofal wedi ei gynllunio GIG Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac mae'n darparu meddygaeth ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Grymuso cleifion yw sail y gwasanaeth, ac mae'n hybu’r broses o newid ymddygiad trwy dechnegau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol.
Drwy raglen barhaus o addysg a hyfforddiant, mae WISE yn galluogi cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio ato i ddeall yn well beth yw achosion sylfaenol eu cyflyrau meddygol cyfredol, a dilyn ffyrdd o fyw sy'n gwella eu hiechyd hirdymor ac yn sicrhau gwell ansawdd bywyd gyda llai o faich symptomau.
Meddai Liza Thomas-Emrus, sy’n Glinigwr Arweiniol gyda WISE:
“Gan ystyried ein hethos holistaidd o ran meddygaeth ffordd o fyw yn WISE, a’r cynnydd cyflym yn y defnydd o bresgripsiynau cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n hynod o falch o ymuno â'r arbenigwyr iechyd digidol yn Elemental.
“Mae gwaith cyffredinol y cwmni o ran datblygu cymunedol ym maes iechyd a lles yn cyd-fynd yn berffaith â fframwaith lles digidol WISE, ac mae’n ychwanegu at ddetholiad ein cleifion o offer hunan-reoli digidol. Dyma gam hanfodol ar ein taith tuag at ddarparu gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf a gofal iechyd mae’r claf yn ei reoli ei hun, sef rhywbeth sy'n agos at ein calonnau.
“Dros amser, does dim amheuaeth na fydd presgripsiynu cymdeithasol yn ein helpu i oresgyn yr heriau presennol sy'n ein hwynebu yng Nghwm Taf Morgannwg yn sgil y pandemig, ac, wrth ystyried y dyfodol, na fydd yn darparu gofal iechyd amgen i'n poblogaeth wrth i’w disgwyliad oes gynyddu ac wrth i bobl ddatblygu mwy o gyflyrau hirdymor.”
Mae modd i ymgynghorwyr, meddygfeydd neu weithwyr iechyd proffesiynol atgyfeirio eu cleifion at WISE, neu mae modd i gleifion gyfeirio eu hunain trwy fynd i bipctm.gig.cymru/wise-ctm.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451.
Ewch i wefan Elemental: https://elementalsoftware.co