Mae’r bartneriaeth gyntaf gyda’r Sefydliad ar gyfer Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd - ORCHA. Mae ORCHA, sy’n un o gwmnïau adolygu a dosbarthu apiau mwyaf blaenllaw’r byd, eisoes wedi creu llyfrgelloedd apiau ar gyfer 70% o ymddiriedolaethau’r GIG, byrddau iechyd a sefydliadau eraill yn y DU.
Bydd cleifion ar restrau aros gofal eilaidd penodol, a fydd yn cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) o fis Ebrill 2022, yn cael mynediad personol i lyfrgell gofal iechyd digidol wedi’i theilwra, diolch i’r bartneriaeth newydd hon.
Mae’r ail bartner, Elemental Software, yn gwmni llwyddiannus ym maes meddalwedd presgripsiynu cymdeithasol, y mae ei dechnoleg yn cael ei defnyddio ym maes iechyd a lles cymunedol i rymuso a galluogi unigolion i gysylltu'n well â rhaglenni, gwasanaethau ac ymyriadau gofal iechyd yn y gymuned.
Drwy fabwysiadu platfform digidol Elemental, bydd WISE yn gallu helpu cleifion i gael mynediad at nifer o gyfleoedd i wella eu canlyniadau iechyd corfforol a meddyliol; hyrwyddo lles; a helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd ar draws poblogaeth ranbarthol y Bwrdd Iechyd.
Mae defnyddio adnoddau digidol i ategu gofal iechyd wyneb yn wyneb yn dod yn arfer cyffredin, gan rymuso dinasyddion i reoli eu hiechyd eu hunain, a helpu i leihau gwariant y GIG. Mae apiau iechyd yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sydd â chyflyrau hirdymor fel canser a diabetes, a gyda newidiadau i’w ffordd o fyw fel rhoi’r gorau i ysmygu a rheoli deiet.
Meddai Liza Thomas-Emrus, Clinigydd Arweiniol gyda WISE: “Gan ystyried ein hethos holistaidd o ran meddygaeth ffordd o fyw yn WISE, a’r cynnydd cyflym yn y defnydd o apiau presgripsiynau cymdeithasol yng Nghymru, rydyn ni’n gyffrous iawn am y bartneriaeth fydd gennym â'r arbenigwyr iechyd digidol yn ORCHA ac Elemental.
“Mae ein tîm yn ystyried bod apiau iechyd a gofal yn gam hanfodol ar y daith i ddull gofal iechyd hunanreoli sy’n canolbwyntio mwy ar y claf – rhywbeth sy’n agos at ein calonnau ni.
“Bydd apiau presgripsiynu cymdeithasol hefyd yn ein helpu ni i oresgyn yr heriau rydyn ni’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn BIP Cwm Taf Morgannwg yn sgil y pandemig, ac, yn y dyfodol, yn darparu dull gofal iechyd amgen i'n poblogaeth wrth i’w disgwyliad oes gynyddu ac wrth i bobl ddatblygu mwy o gyflyrau hirdymor.”
Mae ORCHA yn adolygu apiau iechyd yn erbyn 350 o safonau llym, gan gynnwys elfennau o fframwaith NICE – a dim ond apiau sy’n cyflawni sgôr o dros 65% ar gyfer sicrwydd clinigol, preifatrwydd data a defnyddioldeb fydd yn cael eu cynnwys yn ei lyfrgelloedd apiau. Bydd adolygiad arall yn cael ei gynnal bob tro y bydd ap yn cael ei ddiweddaru, fel bod y safonau'n cael eu cynnal.
Edrychwch ar wefan Elemental yn https://elementalsoftware.co/
Edrychwch ar wefan ORCHA yn https://orchahealth.com
Edrychwch ar wefan CTM WISE ORCHA yn https://ctmwise.orcha.co.uk