Efallai eich bod wedi gweld ychydig o syniadau syml ar sut i wella eich lles ar eich ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar? Neu hyd yn oed wedi cael eich ysbrydoli i roi cynnig ar awgrym neu ddau, gan wella eich lles corfforol a/neu emosiynol dros y cyfnod hwn gobeithio?
Wel, y newyddion da yw y byddwch chi'n gallu lawrlwytho ac argraffu pdf Calendr Lles WISE llawn o 1 Awst 2022 ac yna bob mis trwy gydol y flwyddyn.
Cyflwynodd y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) y Calendr Lles ym mis Gorffennaf er mwyn ysbrydoli pobl i gynnwys camau hunanofal bach yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Dywedodd Dr Liza Thomas-Emrus, Clinigydd Arweiniol WISE:
“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i’n calendr lles dyddiol. Weithiau mae syniad neu awgrym syml yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd cyffredinol rhywun.
‘Mae hyn yn aml yn creu adwaith sy’n effeithio ar les pobl eraill hefyd, sy’n rhywbeth braf i’w rannu gyda theulu a ffrindiau.
‘Mae ein hawgrymiadau dyddiol yn canolbwyntio ar brif nodweddion y feddyginiaeth ffordd o fyw gyfannol y mae gwasanaeth WISE yn ei hyrwyddo, fel symud corfforol, iechyd meddwl, cysylltiad cymdeithasol, bwyta’n iach, a hylendid cwsg.”
Gyda phwyslais ar reoli poen, mae’r nodweddion hyn yn sail i’r rhaglen hunanofal gynhwysfawr y mae WISE yn ei chynnig i unrhyw un sydd â chyflwr iechyd cronig yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.
Mae ffocws arbennig ar gleifion sydd ar restrau aros y GIG ar hyn o bryd, sy'n teimlo y gallen nhw elwa o gefnogaeth Hyfforddwr Lles profiadol, a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd.
Gallwch lawrlwytho Calendr Lles WISE ym mis Awst yma:
https://bipctm.gig.cymru/wise-ctm/hunan-reolaeth/calendr-lles/
Cysylltwch â WISE am ragor o wybodaeth: E-bost: CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01685 351451
https://bipctm.gig.cymru/wise-ctm/hunan-reolaeth/calendr-lles/